Margaret Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Margaret Williams
Ganwyd Brynsiencyn Edit this on Wikidata
Man preswyl Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Actor, Canwr Edit this on Wikidata

Cantores soprano ac actores Gymreig ydy Margaret Williams. Yn wreiddiol daw o Frynsiencyn, Ynys Môn. Mae ei gwaith wedi amrywio o berfformio mewn sioeau cerdd i gyflwyno ei rhaglen deledu ei hun ar S4C. Caiff ei hystyried yn diva[1] ac yn eicon hoyw Cymreig. Oherwydd hir-hoedledd ei gyrfa, fe'i hystyrir hefyd yn "drysor cenedlaethol" [2] a chyfeiriodd Shan Cothi ati fel y "Joan Collins Cymreig".[3]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i magwyd ym Brynsiencyn ac aeth i'r ysgol gynradd leol ac yna Ysgol Uwchradd Biwmares. Cafodd wersi canu a piano drwy gydol ei arddegau, gan gystadlu mewn eisteddfodau er mwyn ennill arian. Cafodd ei derbyn yn 16 oed i Goleg Cerdd ym Manceinion ond nid oedd y teulu yn gallu fforddio ei danfon yno a gwrthodwyd grant iddi gan y cyngor nes ei bod yn 18 oed. Fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal, Bangor ar gwrs hyfforddi athrawon. Wedi gadael y coleg aeth i ddysgu i'r ysgol gynradd yn Biwmares.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan oedd yn 15 oed, perfformiodd fel unawdydd yn cynrychioli Sir Fôn yng nghystadleuaeth y BBC Ser y Siroedd.

Dechreuodd Williams ei gyrfa ym 1964 pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Wedi symud i Gaerdydd a dechrau canu yn broffesiynol ar deledu, un o'r rhaglenni cyntaf a ganodd arni oedd Os Gwelwch Yn Dda. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres ddychan Stiwdio B a'r gyfres adloniant Be Nesa?, cyfres gynta Ryan Davies. Roedd ei bryd ar hyfforddi i ganu opera ond am ei bod wedi priodi yn ifanc ac yn magu blant, roedd yn haws iddi ddilyn gyrfa canu ysgafn.

Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd gyda rhai o brif sêr y llwyfan yng Nghymru, yn cynnwys y diweddar Ryan Davies a Ronnie Hazlewood.

Margaret oedd enillydd cyntaf Cân i Gymru pan ddechreuodd y gystadleuaeth ym 1969.

Bu yn gyhoeddwr rhaglenni ar HTV Cymru yn yr 1970au ac ar S4C yn yr 1980au. Roedd ganddi ei chyfres ei hun, Margaret ar S4C rhwng 1982 a 1999.[5]

Mae Williams wedi dylanwadu ar ddiwylliant fodern hefyd. Yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James, cyfeirir ati fel arwres camp i un o'r cymeriadau hoyw.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n briod a'r darlledwr Geraint Jones.

Gwaith teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Sioeau Cerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Margaret Williams

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyngerdd i ddathlu gyrfa cantores o fri Gwefan BBC Cymru. Adalwyd ar 20-09-2010
  2. Cân i Gymru 2009 Judges Gwefan S4C. Adalwyd ar 19-09-2010
  3. Shan Cothi Gwefan S4C. Adalwyd ar 19-09-2010
  4. She's 'always been singing' to use her own words, but in her new series on S4C, the celebrated Welsh songbird shares musical memories with other artists and provides a platform for eight talented young Welsh musicians to find their voice. , Western Mail, 6 Ebrill 2013. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2018.
  5.  The Continuity Booth. thetvroom.co.uk. Adalwyd ar 26 Ebrill 2018.
  6. The TV Room. Adalwyd ar 19-09-2010