Camp (arddull)
Enghraifft o'r canlynol | non-classical category of aesthetics |
---|
Defnyddir y term Camp pan yn cyfeirio at rywbeth sy'n apelio yn sgîl ei ddiffyg chwaeth a'i werth eironig. Pan ddefnyddiwyd y term am y tro cyntaf ym 1909, cyfeiriai at ymddygiad dros ben llestri, theatrig, merchetaidd ac ymddygiad hoyw ond erbyn y 1970au roedd ei ystyr wedi newid a gallai olygu rhywbeth a oedd mor erchyll a di-chwaeth fel ei fod yn apelio ar lefel rhyfedd o soffistigeiddrwydd. Pwysleisia traethawd yr ysgrifennydd Americanaidd Susan Sontag “Notes on ‘Camp’ ” (1964) ei brif elfennau: clyfrwch, gwamalrwydd, ymhongarwch naïf dosbarth-canol a gormodedd o 'sioc'.
Gwnaed ffilmiau camp yn boblogaidd gan y gwneuthurwr ffilmiau John Waters mewn ffilmiau megis Hairspray a Polyester. Mae enwogion a gysylltir â phersonoliaethau camp yn cynnwys perfformwyr drag a pherfformwyr fel Dame Edna, Divine (Glen Milstead), RuPaul, Boy George, a Liberace. Fel rhan o'r ymgyrch gwrth-academaidd i amddiffyn diwylliant cyfoes a ddechreuodd yn ystod y 1960au. Daeth camp yn boblogaidd yn ystod y 1980au.