Breuddwyd Macsen Wledig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwedl Cymraeg Canol sy'n adrodd hanes chwedlonol yr Ymerawdwr Macsen Wledig a'i ymwneud â Chymru yw Breuddwyd Macsen Wledig neu Breuddwyd Macsen (Cymraeg Canol: Breudwyt Maxen (Wledic)). Fe'i cyfrifir yn un o dair chwedl frodorol y Mabinogi. Ceir y testun hynaf yn Llyfr Gwyn Rhydderch ond ceir testun gwell yn Llyfr Coch Hergest. Oherwydd y brogarwch amlwg tuag at Arfon a geir ynddi, gellir bod yn weddol ffyddlon mai brodor o Wynedd oedd y cyfarwydd (chwedleuwr) anhysbys a'i lluniodd tua chanol y 12g, yn ôl pob tebyg.

Y Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Macsen Wledig yn cysgu, llun gan T. Prytherch yn Chwedlau Cymru Fu (1906)

Ymrennir y chwedl yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir hanes breuddwyd Macsen a'r hyn a deilliodd ohoni ac yn yr ail ran, sy'n llai boddhaol o safbwynt llenyddol, ceir sawl traddodiad am Facsen, Elen, a'r Brythoniaid, wedi'u plethu ynghyd.

Egyr y chwedl gyda Macsen Wledig, Ymerawdwr Rhufain, yn mynd i hela mewn dyffryn ger Rhufain er mwyn diddanu "deuddeg brenin ar ugain o frenhinoedd coronog" sy'n ddeiliaid iddo. Ond does ganddo ddim llawer o awydd i hela, ac mae'n ymneilltuo i lecyn tawel i orffwys am ganol dydd. Gesyd ei osgordd eu tariannau drosto i'w gysgodi ac mae'n syrthio i gysgu. Yn ei freuddwyd mae'n cael gweledigaeth ryfedd. Mae'n teithio dros yr Alpau, trwy Gâl a thros y Môr Udd i Ynys Brydain. Yna mae'n cerdded i ogledd-orllewin yr ynys a gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Â i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae gwyddbwyll a'r forwyn decaf erioed yn eistedd ar orsedd orwych. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn darfod amdani.

Ni all yr ymerawdwr fyw heb gael gwybod pwy oedd y forwyn a lle y trigai. Mae'n anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd ond dychwelant heb newydd amdani. Cânt eu hanfon yr ail dro. Croesant yr Alpau eto a dilyn cyfarwyddyd Macsen i gyrraedd y gaer a gofyn i'r forwyn briodi Macsen. Mae'r forwyn yn gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad Eudaf a'i frodyr Cynan ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon. Y noson gyntaf honno mae Macsen ac Elen yn cysgu a'i gilydd.

Yn ail ran y chwedl ceir hanesion cymysg yn esbonio sut yr adeiladwyd Sarn Helen a ffyrdd Rhufeinig eraill, sut y cafodd mynydd y Frenni Fawr ei enw, sut y cododd gaer fawr yng nghanol Eryri (Dinas Emrys efallai), a.y.y.b. Mae'n gorffen gyda hanesyn am ymerawdwr newydd yn Rhufain - mae Macsen wedi bod i ffwrdd am dros saith mlynedd, yn groes i ddeddfau Rhufain - sy'n herio Macsen i gadw draw. Ond dychwela i Rufain gydag Elen lle mae'n gwarchae'r ddinas am flwyddyn, yn aflwyddianus. Yna daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr Arfon i gipio'r ddinas a'i adfer i Facsen. Yn ddiolch iddynt, mae Macsen yn caniatau iddynt grwydro ac oresgyn tir fel y mynnant. Ar ôl blynyddoedd o grwydro ar y cyfandir cyrhaeddant Llydaw. Mae hanner y llu yn dychwelyd i Gymru gyda Adeon a'r lleill yn aros i drigiannu Llydaw dan Cynan (Cynan Meiriadog).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Credir gan rai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli sofraniaeth Ynys Brydain a'i bod hefyd yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef Elen Luyddog ac Elen ferch Eudaf. Credir mai mam yr ymerawdwr Custennin Fawr (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes Elen o Gaerdroia wedi lliwio dychymyg y cyfarwydd (chwedleuwr) o Gymro hefyd.

Roedd Macsen Wledig (Magnus Maximus) yn filwr Rhufeinig o Sbaen a ddaeth yn ymerawdwr Rhufain ar ôl i'w filwyr ei hun ei gyhoeddi yn ymerawdwr ym Mhrydain yn y flwyddyn 383. Teyrnasodd am bum mlynedd yn Rhufain cyn gael ei ladd gan Theodosius. Ceir peth o'i hanes gan Gildas a Nennius gyda'r pwyslais ar sut yr amddifadodd yr ynys o filwyr. Ychwanega Nennius y traddodiad am filwyr Cymreig Macsen yn ymsefydlu yn Llydaw. Yn yr Oesoedd Canol daeth rhai o deuluoedd brenhinol Cymru i uniaethu â Macsen a hawlio bod yn ddisgynyddion iddo ac Elen (ac felly'n etifeddu awdurdod y Rhufain Gristnogol a'r hawl i reoli Ynys Brydain, mewn cyferbyniaeth â'r Eingl-Sacsoniaid "paganaidd").

Ceir rhan o hanes Macsen yng ngwaith Sieffre o Fynwy hefyd, ond ceir gwahaniaethau mawr rhwng y fersiwn yn yr Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd) a Breuddwyd Macsen. Prawf yw hynny, fe ymddengys, fod y ddwy chwedl yn seiliedig ar draddodiadau hynafol am Facsen yng Nghymru a drysorwyd gan y Cymry dros y canrifoedd.

Mae'r breuddwyd yn fotif llenyddol poblogaid a geir mewn sawl diwylliant, ond roedd yn arbennig o boblogaidd gan y Celtiaid. Yng Nghymru ceir Breuddwyd Rhonabwy er enghraifft ac yn Iwerddon ceir dosbarth arbennig o chwedlau a elwir yn aisling, e.e. Aislinge Oenguso ('Breuddwyd Angus').

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Testun[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor, 1920)

Ceir testunau diplomatig yn yr orgraff wreiddiol yn nwy gyfrol J. Gwenogvryn Evans,

  • The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887)
  • The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907; argraffiad newydd gol. gan R. M. Jones, Llyfr Gwyn Rhydderch, Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)

Ceir fersiwn Cymraeg Diweddar o'r testun yn,

  • Rhiannon a Dafydd Ifans, Y Mabinogion (1980)

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rachel Bromwich, 'Dwy Chwedl a Thair Rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol, gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974)
  • Gwynfor Evans, Macsen Wledig a Geni'r Genedl Gymreig (Abertawe, d.d.= 1983)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]