Simon Brooks
| Simon Brooks | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Ebrill 1971 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd, academydd |
Academydd o Gymru yw Dr Simon Brooks (ganwyd 11 Ebrill 1971).
Rhwng 1996 a 2007, bu'n olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Barn, bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Tu Chwith rhwng 1993 a 1996. Yn 2009, cyhoeddwyd casgliad o'i ohebyddiaeth yn Barn. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymuned; bu'n gyfrifol am weinyddu'r swyddfa ganolog a bu'n aml yn siarad â'r cyfryngau am y mudiad rhwng 2001 and 2004.
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dr Simon Brooks yn un o gant a wrthododd dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[1]
Mae'n byw ym Mhorthmadog ac yn gynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog.[2]
Roedd Simon Brooks yn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2011.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Diwylliant Poblogaidd a'r Gymraeg : neu yr ifanc a wŷr, yr hen a dybia (Talybont: Y Lolfa, 1998)
- Ceidwadaeth a'r Gymru Newydd (Llanbedr-goch: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1999)
- Llythyrau at Seimon Glyn (gol.) (Talybont: Y Lolfa, 2001)
- O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2004)
- Yr Hawl i Oroesi: ysgrifau gwleidyddol a diwylliannol (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
- Pa beth yr aethoch allan i'w achub? Ysgrifau i gynorthwyo'r gwrthsafiad yn erbyn dadfeiliad y Gymru Gymraeg (cyd-olygydd gyda Richard Glyn Roberts) (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
- Pam Na Fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2015
- Adra: Byw yn y Gorllewin Cymraeg (Talybont: Y Lolfa, 2018)
- Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2021)
- Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru (Caerdydd: Llywodraeth Cymru, 2021)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360[dolen farw]
- ↑ Is-bwyllgorau. Cyngor Tref Porthmadog. Adalwyd ar 17 Mai 2018.