Pam Na Fu Cymru

Oddi ar Wicipedia
Pam Na Fu Cymru
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurSimon Brooks
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi2015 Edit this on Wikidata
PwncGwleidyddiaeth Cymru
Argaeleddmewn print
ISBN9781783162338

Llyfr academaidd Cymraeg gan Simon Brooks yw Pam Na Fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2015 fel rhan o'r gyfres "Safbwyntiau".

Pwnc a dadl[golygu | golygu cod]

Ceisia'r awdur ganfod y rheswm pam na lwyddodd cenedlaetholdeb Cymreig, a Chymraeg yn enwedig, yn yr un modd â mudiadau cenedlaetholgar yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop yn ystod y 19g. Dadleua Brookes taw rhyddfrydiaeth sy'n gyfrifol am y methiant hwn, gan ei bod yn canolbwyntio'n fwy ar ryngwladoldeb yn hytrach na phobloedd leiafrifol. Mae'n ymosod ar rai o eilunod hanes Cymru: radicalwyr ac anghydffurfwyr Oes Fictoria, oedd yn cofleidio egwyddorion hollfydol ac yn rhoi'r gorau i neilltuoldeb. O ganlyniad, daeth Prydeindod i ddominyddu bydolwg y sefydliad Cymreig, gan roi'r Gymraeg dan anfantais.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Llwyddodd y llyfr i ennill lle ar restr fer y Wobr Ffeithiol Creadigol yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhestr Fer 2016[dolen marw] (Llenyddiaeth Cymru). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]