O Dan Lygaid y Gestapo
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Simon Brooks |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Llenyddiaeth Cymru |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780708319215 |
Llyfr academaidd Cymraeg gan Simon Brooks yw O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2004 fel rhan o'r gyfres "Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig".
Dadleua'r awdur bod "goleuedigaeth" genedlaethol, yn debyg i'r Oleuedigaeth Ewropeaidd yn y 18g, wedi digwydd yng Nghymru ar ddiwedd y 19g a thrwy'r 20g.