Lir

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad ym mytholeg Iwerddon yw Lir, weithiau Ler. Mae'n cyfateb i Llŷr yn y traddodiad Cymreig, ac fel Llŷr ymddengys ei fod yn wreiddiol yn dduw y môr.

Fel Llŷr, mae'n ymddangos yn y chwedlau fel tad cymeriadau eraill yn hytrach nag fel cymeriad ei hun. Ef yw tad Manannán mac Lir, sydd hefyd yn dduw y môr. Mae'n gymeriad yn chwedl Plant Lir, er nad oes sicrwydd fod y Lir yma yr un cymeriad a thad Manannán. Yn y chwedl yma, mae Lir a Bodb Dearg yn ymryson am orsedd y Tuatha Dé Danann. I drefnu heddwch mae Bodb yn rhoi un o'i ferched, Aeb, i Lir yn wraig. Genir pedwar o blant iddynt, un ferch, Fionnuala, a thri mab, Aed, Fiachra a Conn.

Wedi i Aeb farw, mae Bodb yn gyrru un arall o'i ferched, Aoife, i fod yn wraig i Lir. Mae Aoife yn gengigennus o'r plant, ac yn rhoi hud arnynt, gan eu condemnio i fyw fel elyrch a 900 mlynedd.