Siantri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siantri yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt.

Gwaddoliad neu gymynrodd i offeiriaid ddweud neu ganu'r offeren dros enaid yr un sydd wedi ei sefydlu yw siantri.[1] Gall hefyd gyfeirio at y rhan o'r eglwys, megis capel neu gangell, a waddolir felly. Weithiau byddai'r unigolyn yn sefydlu siantri am rywun arall, er enghraifft aelod o'i deulu.

Yn yr Oesoedd Canol, cyn y Diwygiad Protestannaidd, siantrïau oedd un o'r ffyrdd i'r Eglwys Babyddol godi arian. Dechreuodd yn y 13g, ac o fewn can mlynedd cafodd siantrïau eu cynnwys wrth ddylunio cadeirlannau newydd, er enghraifft yn Tours a Bordeaux. Yn sgil y Pla Du yng nghanol y 14g, cynyddodd y nifer o siantrïau a chawsant eu sefydlu nid yn unig yn yr eglwysi ond mewn mynachlogydd, ysbytai, ac ysgolion gramadeg. Cafodd y siantri, ac arferion tebyg megis y maddeueb ar werth, eu condemnio'n llygredigaeth eglwysig gan Brotestaniaid, a'u diddymu yn yr 16g.

Câi adeilad y siantri, a elwir hefyd yn gapel côr, ei wahanu oddi ar weddill yr eglwys. Cafodd ei godi yn aml ar fedd y sefydlydd, ac felly'n cynnwys beddrod carreg a chorffddelw. Gwneid siantrïau o garreg gan amlaf, a chyda rhwyllwaith, addurniadau herodrol, a cherfwaith yn ogystal â'r allor er yr offeren. Weithiau ni fyddai'n strwythur ar wahân, ond byddai ganddo len, neu baneli derw, ac o bosib canopi o'i amgylch.[2][3] Fel arfer bu offeiriaid y siantri, neu'r siantrïwyr, heb eu cysylltu â'r plwyf, ac felly'n cael mynediad drwy ddrws allanol.

Daw'r enw, drwy'r Saesneg, o'r Hen Ffrangeg chanterie sef canu. Yn wreiddiol, cyfeiriodd at y weithred o ganu'r offeren, ac yn ddiweddarach y gwaddoliad, yr offeiriaid, ac yna'r adeilad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  siantri. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Ebrill 2018.
  2. "Chantry" yn A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 7 Ebrill 2018.
  3. (Saesneg) Chantry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ebrill 2018.