Neidio i'r cynnwys

Offeren

Oddi ar Wicipedia
Offeren
Enghraifft o:defod, christian event Edit this on Wikidata
MathOfferen Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Yn cynnwysProper yr Offeren, Ordinari'r Offeren, llith, Cymun, Homili Edit this on Wikidata
Enw brodorolMass Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0flm_ edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF9159 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwasanaeth Cristnogol a'i litwrgi sy'n cynnwys yr Ewcharist neu'r cymun, gweinyddiad y sacrament, neu'r ordinhad o Swper yr Arglwydd yw'r offeren[1] yn enwedig yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ond hefyd gan eglwysi a chynulleidfaoedd eraill megis yr Anglo-Gatholigion ac Anglicaniaid yr Uchel Eglwys.

Yr Eglwys Gatholig

[golygu | golygu cod]

Y Weddi Ewcharistaidd yw canolbwynt yr Offeren. Seilir y ffurfwasanaeth ar litwrgi hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r oes Rufeinig. Mae'r ddefod yn cynnwys dwy ran: Litwrgi'r Gair, sy'n cynnwys darlleniadau o'r ysgrythur a'r bregeth neu homili; a Litwrgi'r Ewcharist, sy'n cynnwys yr offrymiad, gweddi'r cysegriad neu'r canon, a defod y cymun. Wrth graidd diwinyddiaeth yr Offeren mae athrawiaeth trawsylweddiad. Newidiodd yr Offeren yn sgil Ail Gyngor y Fatican (1962–65), er enghraifft rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio ieithoedd ar wahân i'r Lladin.

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Gall "offeren" hefyd gyfeirio at osodiad cerddorol o rannau o wasanaeth yr offeren.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1  offeren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Ionawr 2017.