Homili

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Origen o Alecsandria, c.184 - c.253, y cyntaf i wahaniaethu rhwng 'logos' a 'homilia'

Sylwebaeth sy'n dilyn darlleniad o'r ysgrythur yw homili.[1] Mewn eglwysi Catholig, Anglicanaidd, Lutheraidd, ac Uniongred Dwyreiniol, mae homili fel arfer yn cael ei rhoi yn ystod yr Offeren (Litwrgi Dwyfol neu Qurbana Sanctaidd i Eglwysi Uniongred a Chatholig Dwyreiniol, a'r Oedfa i'r Eglwys Lutheraidd) ar ddiwedd Litwrgi'r Gair. Mae nifer o bobl yn ei ystyried yn gyfystyr a phregeth.

Mae'r gair homili yn tarddu o'r gair Groeg ὁμιλία homilia (o ὁμιλεῖν homilein), sy'n golygu cymundeb neu gynnal trafodaeth gyda rhywun. Yn yr ystyr hon mae homilia yn cael ei ddefnyddio yn 1 Corinthiaid 15:33. Yn Luc 24:14, rydyn ni'n canfod y gair homiloun, ac yn Actau 24:26, homilei, y ddau yn cael eu defnyddio yn yr ystyr "siarad â". Origen oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng logos (sermo) a homilia (tractatus). Ers dyddiau Origen mae homili wedi golygu, ac yn parhau i olygu, sylwebaeth, heb gyflwyniad ffurfiol, raniadau, neu gasgliad, ar rhyw ran o'r Ysgrythur Lan, gyda'r nod o esbonio ei ystyr yn llythrennol, a'i ryddhau yn ysbrydol. Yr ail, fel rheol, yw'r pwysicaf; ond os, fel yn achos Origen, y rhoir mwy o sylw i'r blaenorol, yna gellid galw'r homili yn esboniadol yn hytrach nag anogaethol. Dyma'r ffurf hynaf o bregethu Cristnogol.[2]

Ystyron eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r weinidogaeth Brotestannaidd gyfoes yn aml yn defnyddio'r term 'homili' i ddisgrifio pregeth fer, fel un sydd wedi'i chreu ar gyfer priodas neu angladd.

Mewn defnydd ar lafar, mae homili yn am yn golygu pregeth ar fater ymarferol, darlith neu anogaeth foesol, neu ddywediad neu gyffredineb sy'n ysbrydoli. Cyhoeddodd Emrys ap Iwan sawl homili yn ei gyfrol Homilïau, sy'n cynnwys ysgrifau dychanol ar wleidyddiaeth a chrefydd, e.e. Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]