Mytholeg Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mytholeg Geltaidd
Coventina
Amldduwiaeth Geltaidd

Duwiau a duwiesau Celtaidd

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mytholeg a chwedlau'r Celtiaid sydd yn perthyn i'w crefydd amldduwiol yw mytholeg Geltaidd.[1] Yn debyg i bobloedd eraill Ewrop yn ystod Oes yr Haearn, mythos a chrefydd amldduwiol oedd gan y Celtiaid. O ran y Celtiaid oedd mewn cysylltiad agos â Rhufain hynafol, gan gynnwys y Galiaid a'r Celtiberiaid, ni lwyddodd eu chwedloniaeth i oroesi gorchfygiadau'r Ymerodraeth Rufeinig, na'r dröedigaeth at Gristnogaeth, na cholled eu hieithoedd brodorol. Trwy ffynonellau Rhufeinig a Christnogol y cyfnod mae'r fytholeg hon wedi ei chadw yn bennaf. Parhaodd weddillion yr hen fytholeg ymhlith y bobloedd Geltaidd a gadwant eu hieithoedd, eu strwythurau cymdeithasol a'u hannibyniaeth wleidyddol, megis y Gaeliaid yn Iwerddon a'r Alban a'r Brythoniaid yng Nghymru, CernywLlydaw, a rhoddwyd y straeon hynny ar ffurf ysgrifenedig yn ystod yr Oesoedd Canol.

Trosolwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y duw Celtaidd Sucellus.

Er yr oedd y byd Celtaidd ar ei anterth yn cynnwys llawer o orllewin a chanolbarth Ewrop, nid oedd yn wleidyddol unedig ac nid oedd unrhyw ffynhonnell ganolog a chanddi ddylanwad diwylliannol neu drefn homogenaidd; o ganlyniad, roedd llawer o amrywiad lleol mewn arferion crefyddol y Celtiaid (er bod rhai motiffau, er enghraifft y duw Lugh, yn ymddangos ledled y byd Celtaidd). Mae arysgrifau o fwy na thri chant o dduwiau a duwiesau, yn aml yn cyfateb i ffigurau cyfatebol ym mytholeg Rufeinig, wedi goroesi, ond mae'n debyg yr oedd y mwyafrif ohonynt yn genii locorum, sef duwiau lleol neu lwythol, ac ychydig a gafodd eu haddoli'n eang. Fodd bynnag, o'r hyn sydd wedi goroesi o fytholeg Geltaidd, mae'n bosibl i ganfod nodweddion cyffredin sy'n awgrymu pantheon sydd yn fwy unedig na'r hyn y tybir ynghynt.

Gellir diddwytho natur a swyddogaethau'r duwiau hynafol hyn oddi wrth eu henwau, lleoliad yr arysgrifau sydd yn eu crybwyll, eu heiconograffeg, y duwiau Rhufeinig yr ydynt yn cyfateb iddynt, a ffigurau tebyg sydd yn ymddangos mewn mytholeg Geltaidd ddiweddarach.

Bodolai mytholeg Geltaidd mewn sawl corff neu is-grŵp neilltuol, ac i raddau helaeth maent yn cyfateb i ganghennau'r ieithoedd Celtaidd:

Ffynonellau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Olwynion diofryd sydd yn cyfateb i gwlt y duw Taranis. Darganfuwyd miloedd o'r fath olwynion mewn cysegrfannau yn Gallia Belgica ac yn dyddio o 50 CC i 50 OC.

O ganlyniad i brinder olion ysgrifenedig yr iaith Aleg, mae'n bwrw bod y rhan fwyaf o lenyddiaeth Geltaidd yng Ngâl wedi ei dinistrio gan y Rhufeiniaid, er yr ydym yn hysbys ohonni gan offrymau diofryd sydd yn dwyn calendr Coligny a ffurf ysgrifenedig ar Aleg yn yr wyddor Roeg, yr wyddor Ladin, a'r hen wyddor Italaidd.[3] Bu Iŵl Cesar yn tystio i lythrennedd y Galiaid, ond ysgrifennodd bod gwaharddiad ar eu hoffeiriaid, y derwyddon, rhag cofnodi barddoniaeth grefyddol yn ysgrifenedig[4] (Cesar, Commentarii de Bello Gallico 6.14) tra nododd hefyd bod yr Helvetii yn cynnal cyfrifiad ysgrifenedig yn eu cymdeithas (Cesar, De Bello Gallico 1.29).

Cyflwynwyd arfer o arysgrifau cyhoeddus cyffredin gan y Rhufeiniaid, ac ar yr un pryd chwalai grym y derwyddon yn y tiriogaethau a oresgynwyd. Mae'r nifer fwyaf o arysgrifau i dduwiau a duwiesau a ddarganfuwyd yng Ngâl, Prydain ac ardaloedd Celtaidd eraill yn dyddio i'r cyfnod ar ôl y goncwest Rufeinig.

Er i'r Gaeliaid cynnar yn Iwerddon a rhannau o Gymru ddefnyddio'r sgript Ogam i gofnodi arysgrifau byrion (yn bennaf enwau personol), ni chafodd llythrennedd soffistigedig ei gyflwyno i ardaloedd Celtaidd nas gorchfygwyd gan y Rhufeiniaid hyd nes dyfodiad Cristnogaeth. Yn wir, cofnodwyd nifer o chwedlau Gaelaidd yn gyntaf gan fynachod Cristnogol, er yn aml heb ystyron crefyddol y straeon gwreiddiol.[5]

Mytholeg Wyddelig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cuchulainn yn cludo Ferdiad ar draws yr afon.

O Iwerddon yr Oesoedd Canol cynnar daw'r corff hynaf o chwedlau sy'n deillio o'r Oes Arwrol.[6] Wrth i Gristnogaeth ddechrau orchfygu, cafodd y duwiau a duwiesau eu dileu'n araf o ddiwylliant y Gaeliaid. Mae'r hyn sydd wedi goroesi yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â'r Tuatha Dé Danann a'r Fomoriaid, sy'n ffurfio sail y testun Cath Maige Tuired ("Brwydr Mag Tuireadh"), yn ogystal â rhannau o'r hanes traddodiadol Lebor Gabála Érenn ("Llyfr y Goresgyniadau"). Cynrychiola swyddogaethau cymdeithasol gan y Tuatha Dé, gan gynnwys brenhiniaeth, crefftau a rhyfela, tra bo'r Fomoriaid yn cynrychioli anhrefn a'r byd gwyllt.

Y Dagda[golygu | golygu cod y dudalen]

Arweinydd y duwiau ym mhantheon y Gaeliaid oedd y Dagda.[7] Y Dagda oedd yn sail i ddynion a duwiau eraill, gan iddo ymgorffori nodweddion a delfrydau'r gymdeithas Wyddelig. Cafodd y duwiau Celtaidd eu hystyried yn glan oherwydd eu diffyg arbenigedd a'u tarddiad anhysbys. Cymeriad bwrlésg a dychanol yw Dagda ym mytholeg Iwerddon, ac mae ambell awdur hyd yn oed yn dod i'r casgliad ei fod yn ddigon haelionus iddo oddef jôcs ar ei draul ei hun.

Portreadir y Dagda yn gymeriad grymus ac yn dwyn pastwn. Yn Dorset, de Lloegr, mae amlinelliad wedi ei dorri yn y pridd calchog a adwaenir fel Cawr Cerne Abbas sydd yn portreadu dyn ithyffalig a chanddo bastwn. Er bod hyn yn ôl pob tebyg wedi ei creu yn y cyfnod modern (17g), credir am amser maith ei fod yn ddarluniad o'r Dagda. Mae hyn wedi cael ei gwestiynu gan astudiaethau diweddar sy'n dangos bod cynrychiolaeth o rywbeth sy'n edrych fel llen neu ddilledyn mawr yn hongian oddi wrth fraich lorweddol y ffigur, sy'n awgrymu bod y cawr hwn mewn gwirionedd yn cynrychioli Ercwlff (Heracles), gyda chroen llew Nemea dros ei fraich a'r ffon ladd yn ei law. Yn Ngâl, mae rhai wedi bwrw'r amcan taw Sucellus, yr ymosodwr a'i forthwyl a chwpan, sydd yn cyfateb i'r Dagda.

Y Morrígan[golygu | golygu cod y dudalen]

Duwies ryfelgar deiran oedd y Morrígan.[8] Adwaenid yn bennaf fel y Morrígan, a chafodd ei rhannau eu galw'n Nemain, Macha, a Badb (ymhlith enwau eraill, llai cyffredin), a phob un yn cynrychioli gwahanol agweddau o frwydro. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y Táin Bó Cúailnge.

Lugh/Lug[golygu | golygu cod y dudalen]

Darluniad o waywffon hudol Lugh gan H. R. Millar.

Y duw sy'n ymddangos yn fwyaf aml yn y straeon yw Lugh. Mae'n amlwg ei fod yn weddill o'r duw cynharach Lugus, ac mae gwasgariad y ffigur hwnnw i'w weld yn y nifer o leoedd sy'n dwyn ei enw ar draws y byd Celtaidd. Y mwyaf enwog o'r rhain yw dinasoedd Lugdunum (Lyon), Lugdunum Batavorum (Brittenburg, 10 cilomedr i'r gorllewin o Leiden yn yr Iseldiroedd), a Lucus Augusti (Lugo yng Ngalisia). Disgrifir Lug yn y chwedlau Celtaidd fel yr olaf i gael ei ychwanegu at restr y duwiau a'r duwiesau. Yn Iwerddon cafodd gŵyl o'r enw y Lughnasadh (Gwyddeleg: Lúnasa "Awst") ei dathlu er anrhydedd iddo.

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith duwiesau pwysig eraill mae Brìghde (neu Ffraid), merch y Dagda; Aibell, Áine, Macha, a'r dduwies sofran Ériu. Duwies nodedig yw Epona, y farch-dduwies, a gafodd ei dathlu gan rasys ceffylau yn ystod gŵyl yr haf. Mae duwiau pwysig yn cynnwys Nuada Airgetlám, brenin cyntaf y Tuatha Dé Danann; Goibniu, gof a bragwr; Dian Cecht, nawdd-dduw iechyd; a'r môr-dduw Manannán mac Lir.

Mytholeg Gymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Mytholeg Gymreig
Darlun o Lŷr a'r elyrch gan H. R. Millar.

Rydym yn gwybod llai am fytholeg gyn-Gristnogol Prydain nag yr ydym am chwedloniaeth yr hen Wyddelod. Ymddangosir etifeddiaeth y mythau Brythonaidd ym Mhedair Cainc y Mabinogi, yn enwedig mewn enwau nifer o'r cymeriadau, gan gynnwys Rhiannon, Teyrnon, a Brân Fendigaid. Deillia cymeriadau eraill, yn ôl pob tebyg, o ffynonellau mytholegol, a gellir olrhain sawl chwedl a motiff i'r traddodiad Indo-Ewropeaidd, er enghraifft Arawn, brenin yr Arallfyd sydd yn ceisio cymorth gan fod meidrol. Prif gymeriadau yw plant Llŷr (sy'n cyfateb i Ler y Gwyddelod) yn yr Ail a'r Trydedd Gainc, a phlant Dôn (Danu'r Gwyddelod) yn y Bedwaredd Gainc, er nad yw'r straeon eu hunain yn fytholeg gynradd.

Er bod rhagor o enwau a chyfeiriadau mytholegol yn ymddangos mewn mannau eraill yn nhraddodiad y Cymry, yn enwedig yn chwedl Culhwch ac Olwen (er enghraifft Mabon ap Modron) a Thrioedd Ynys Prydain, nid yr ydym yn gwybod digon am gefndir mytholegol y Brythoniaid i ail-greu naill ai hanes o'r creu neu bantheon cydlynol o dduwiau a duwiesau Brythonaidd. Yn wir, er bod llawer yn gyffredin gyda mytholeg Iwerddon, efallai nad oedd traddodiad Brythonaidd unedig fel y cyfryw. Beth bynnag ei darddiad sylfaenol, mae'r deunydd sydd wedi goroesi wedi cael ei roi i ddefnydd da ar ffurf campweithiau llenyddol sy'n mynd i'r afael â phryderon diwylliannol y Cymry yn yr Oesoedd Canol cynnar a diweddar.

Gweddillion mytholeg Gâl[golygu | golygu cod y dudalen]

Taranis yn dwyn olwyn a mellten.

Bu'r Celtiaid hefyd yn addoli nifer o dduwiau a duwiesau, ac nid ydym yn gwybod llawer amdanynt ond am eu henwau. Cofnodai ambell darn o chwedloniaeth gan awduron clasurol sydd o bosib yn rhan o fytholeg Geltaidd.[9]

Yn ôl y rhethregydd Syriaidd Lucian, roedd Ogmios yn arwain criw o ddynion wedi eu clymu wrth ei dafod o'u clustiau fel symbol o gryfder ei huodledd.

Sonir y bardd bardd Rhufeinig Lucan, yn y 1g, am y duwiau Taranis, Teutates ac Esus, ond nid oes tystiolaeth Geltaidd bod y rhain yn dduwiau pwysig.

Mae'n bosib bod nifer o bethau cain, darnau arian, ac allorau yn darlunio golygfeydd o chwedlau sydd wedi colli inni, megis Tarvos Trigaranus neu Iau ar farch yn trechu'r Anguiped. Câi pair Gundestrup ei ddehongli'n fytholegol gan rai.[10]

Ynghyd â chysegriadau sydd yn crybwyll enwau duwiau, mae yna hefyd cynrychioliadau o dduwiau sydd heb eu hadnabod gennym. Ymhlith y rhain mae delweddau o dduw triphen neu driwynebog, duw yn ei gwrcwd, duw â neidr, duw ag olwyn, a dyn ar geffyl gyda chawr ar ei liniau.[11] Daethpwyd o hyd i rai o'r delweddau hyn mewn corsydd mawn ym Mhrydain sydd yn dyddio o Oes Ddiweddar yr Efydd,[12] sy'n dangos bod y symbolau yn blaenori'r Rhufeiniaid ac yn eang ar draws y byd Celtaidd..Mae dosbarthiad rhai o'r delweddau wedi eu mapio ac yn dangos patrwm o crynodiad canolog o ddelwedd ynghyd ag ymwasgariad eang sydd yn awgrymu yr oedd yn debyg i'r delweddau hyn fod yn gysylltiedig i lwythau penodol yn yr ardal ganolog ac hefyd wedi dosbarthu ar hyd lwybrau masnach. Mae gan y ddelwedd o dduw triphen grynodiad canolog ymhlith y Belgae, rhwng afonydd Oise, Marne a Moselle. Canolir y marchog a'r cawr ar ei liniau ar naill ochr y Rhein. Mae'r enghreifftiau hyn o bosib yn nodi dewisiadau rhanbarthol o stoc gyffredin o ddelweddau.

Iŵl Cesar ar bwnc crefydd y Celtiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Olwyn Geltaidd euraidd.

Y disgrifiad clasurol o dduwiau Celtaidd Gâl yw Commentarii de Bello Gallico (52-51 CC; Rhyfel Gâl) gan Iŵl Cesar. Fe enwodd bum prif dduw y Galiaid, ynghyd â'r duwiau Rhufeinig sydd yn cyfateb agosaf iddynt, a disgrifiodd eu swyddogaethau. Mercher oedd y duw a gafodd ei fawrygu mwyaf, a chafwyd hyd i nifer o brotreadau ohonno. Cafodd Mercher ei ystyried yn ddechreuwr y celfyddydau i gyd (ac yn aml fe'i cysylltir â Lugus am y rheswm hwn), cefnogwr anturiaethwyr a masnachwyr, a'r grym mwyaf aruthrol ym myd masnach ac elw. Yn ail, bu'r Galiaid yn parchu Apollo, Mawrth, Iau, a Minerva. Ymhlith y rhain, mae credoau'r Celtiaid yn fras gyfartal i'r hyn a gredir gan bobloedd eraill: mae Apollo yn chwalu'r salwch, Minerva yn annog sgiliau, Iau yn rheoli'r awyr, a Mars yn dylanwadu ar ryfela. Yn ychwanegol at y prif bump, nodai Cesar bod y Galiaid yn olrhain eu hachau yn ôl i Dīs Pater.[13] Dadleua MacBain bod Apollo yn cyfateb i Lugh y Gwyddelod, Mercher i Manannan mac Lir, Iau i'r Dagda, Mawrth i Net, a Minerva i Brigit.[14]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Banshee
  • Mytholeg Gantabriaidd
  • Yr Eglwys Geltaidd
  • Y Brenin Bysgotwr
  • Táin Bó Flidhais
  • Trisgel
  • Niskai

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cunliffe, Barry, (1997) The Ancient Celts. Oxford, Oxford University Press Nodyn:ISBN, pp. 183 (religion), 202, 204–8.
  2. O'Rahilly, T. F. (1984) [1946, 1964, 1971]. Early Irish History and Mythology. Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies. ISBN 0-901282-29-4. 
  3. Ross, Anne (1972). Everyday Life of the Pagan Celts. Carousel Books. pp. 166–167. ISBN 0-552-54021-8. 
  4. Chadwick, Nora Kershaw (1970). The Celts. Penguin Books. p. 149. ISBN 978-0-14-021211-2. 
  5. Ross, Anne (1972). Everyday Life of the Pagan Celts. Carousel Books. pp. 168–170. ISBN 0-552-54021-8. 
  6. Jackson, Kenneth Hurlstone (1971). A Celtic Miscellany. Penguin Classics. pp. 27–28. ISBN 0-14-044-247-2. 
  7. Geddes & Grosset Ltd (1997). Dictionary of the Celts. Brockhampton Press London. p. 41. ISBN 1-86019-709-4. 
  8. Geddes & Grosset Ltd (1997). Dictionary of the Celts. Brockhampton Press London. p. 130. ISBN 1-86019-709-4. 
  9. Paul-Marie Duval. 1993. Les dieux de la Gaule. Éditions Payot, Paris. Nodyn:ISBN. pp. 94–98.
  10. G.S. Olmsted. "The Gundestrup version of Táin Bó Cuailnge". Antiquity, vol. 50, pp. 95–103.
  11. Powell, T.G.E. The Celts. Thames & Hudson, London. 1958.
  12. Chadwick, Nora. The Celts. Pelican Books. 1970.
  13. Ross, Anne (1972). Everyday Life of the Pagan Celts. Carousel Books. p. 208. ISBN 0-552-54021-8. 
  14. MacBain, Alexander (1976). Celtic Mythology and Religion. Folcroft Library Editions. pp. 69–75. ISBN 0-8414-6043-4. 

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • de Vries, Jan, Keltische Religion (1961).
  • Duval, Paul-Marie, Les Dieux de la Gaule, argraffiad newydd (1976).
  • Mac Cana, Proinsias. Celtic Mythology. Efrog Newydd: Hamlyn, 1970. Nodyn:ISBN0-600-00647-6.
  • Mac Cana, Proinsias, The Learned Tales of Medieval Ireland (Irish Literature – Studies), Dublin Institute for Advanced Studies (1980): Nodyn:ISBN1-85500-120-9.
  • MacKillop, James, Dictionary of Celtic Mythology. Rhydychen: Oxford University Press, 1998. Nodyn:ISBN0-19-280120-1.
  • Maier, Bernhard, Dictionary of Celtic religion and culture, Boydell & Brewer 1997 Nodyn:ISBN978-0-85115-660-6.
  • O'Rahilly, Thomas F. Early Irish History and Mythology (1991, ailgyhoeddwyd 1971).
  • Rhys, John, Lectures on the Origin and Growth of Religion as Illustrated by Celtic Heathendom 3rd ed. (1898, ailgyhoeddwyd 1979).
  • Sjoestedt, M. L., Gods and Heroes of the Celts. 1949; cyfieithwyd gan Myles Dillon. ailgyhoeddwyd Berkeley, CA: Turtle Press, 1990. Nodyn:ISBN1-85182-179-1.
  • Stercks, Claude, Éléments de cosmogonie celtique (1986).
  • Vendryes, Joseph; Ernest Tonnelat & B.-O. Unbegaun Les Religions des Celtes, des Germains et des anciens Slaves (1948).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]