Duwdod

Oddi ar Wicipedia

Endid goruwchnaturiol sy'n cael ei addoli yw duwdod. Ystyrir ef neu hi yn santaidd ac yn meddu pwerau sylweddol.

Hanes addoli[golygu | golygu cod]

Gall duwdod gael ei addoli mewn nifer o ffurfiau; yn aml fe'i darlunnir ar ffurf ddynol neu ar ffurf anifail. Yn ôl rhai crefyddau, mae'n gabledd darlunio'r duwdod mewn unrhyw ffurf. Gall eu pwerau fod yn gyfyngedig i ardaloedd arbennig neu i agweddau arbennig ar fywyd, neu gallant fod yn hollalluog. Yn aml, mae'r duwdod yn gysylltiedig â bywyd ar ôl marwolaeth.

Addoli duwdod yw maes crefydd, tra mae syniadaeth am y duwdod yn fater diwinyddiaeth. Mae'r mwyafrif mawr o drigolion y byd yn ddilynwyr rhyw grefydd. Ymddengys fod rhyw fath o grefydd yn mynd yn ôl i'r cyfnod cynnar, gan fod claddedigaethau o rhwng 50,000 a 30,000 CCC. yn dangos tystiolaeth am gred mewn bywyd ar ôl marwolaeth.

Mathau[golygu | golygu cod]

Efallai'r ffurf gyntaf ar grefydd oedd Animistiaeth, lle credir fod ysbrydion ym mhopeth, yn cynnwys anifeiliaid, planhigion ac elfennau.

Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, ystyrir y duwiau a duwiesau fel rhyw fath o fersiwn ddwyfol ac endidau dynol. Nid oedd y ffin rhwng duwiau a bodau dynol yn un na ellid ei chroesi. Er enghraifft, disgrifiai brenhinoedd yr Hen Aifft eu hunain fel "Mab Ra" a duwiau eraill. Gallai bodau dynol ddod yn ddwyfol ar ôl eu marwolaeth; er enghraifft cyhoeddwyd llawer o ymerodrol Rhufain yn dduwiau. Honnai teulu Iŵl Cesar eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r dduwies Gwener.

Mewn Undduwiaeth, dim ond un Duw sydd, ac mae pellter mwy rhwng y dynol a'r dwyfol. Ceir gwahanol ffurfiau, er enghraifft mewn Pantheistiaeth mae'r bydysawd ei hun yn ddwyfol. Credai dilynwyr Manicheaeth a Zoroastriaeth mewn deuoliaeth, da a drwg. Y prif grefyddau un-dduwiol yw Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.

Chwiliwch am duwdod
yn Wiciadur.