Sgwrs:Duwdod

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mwy nag un ystyr[golygu cod]

Dwi'n meddwl fod yr ethygl fel y mae hi yn gamarweiniol braidd a hynny am fod dwy ystyr i'r gair Cymraeg duwdod. Y brif ystyr - gwraidd yr ail - yw "dwyfol anian, dwyfoldeb". Yn fy mhrofiad i dyma'r ystyr fwyaf cyffredin o lawer yn Gymraeg. Am yr ail ystyr yn unig, sef "Duw; un o'r duwiau; gwrthrych addoliad..." y mae'r erthygl yma yn sôn, ac anaml mae'r gair yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr yna yn Gymraeg (i gyfateb i'r S. deity ayyb rydym ni'n tueddu i ddefnyddio "duw[iau]/Duw"). Mewn diwinyddiaeth gellir cyfeirio at "duwdod Duw" a phan mae'r gair yn cael ei ddefnyddio ar ben ei hun yn Gymraeg mae'n digwydd gan amlaf yn yr ystyr "the Godhead", sef y Duwdod. Efallai fod angen dwy erthygl? Anatiomaros 18:39, 2 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Dwi hollol yn cytuno â thi, Anatiomaros; gallai'r erthygl hon fod yn gamarweiniol oherwydd ystyron y gair. Yn ôl Cysgeir, geiriadur y BBC, a geiriadur.net, mae llawer o ystyron, sef, "godhead, divinity, deity (y Duwdod), ac The Godhead (y Duwdod)." Efallai mai'r ail ystyr yw'r fwyaf cyffredin i lawr o Gymry, ond nid yw'r ffaith honno'n golygu ei bod yn wir. Dwi'n iawn efo creu erthygl ar wahân, ond beth fyddai'n cynnwys, er enghraifft? Sut allwn ni wahaniaethu rhwng y dda? Xxglennxx 23:27, 2 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]