Siôn Jobbins

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siôn Jobbins yn annerch 'Ras yr iaith', 2014

Awdur, gwleidydd ac academydd ydy Siôn T. Jobbins. Mae'n gydolygydd y cylchgrawn Cambrian Magazine sy'n gylchgrawn cenedlaethol, annibynol Saesneg. Ar hyn o bryd mae'n Swyddog Datblygu'r Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.[1]

Ei weledigaeth ef oedd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a sefydlwyd ganddo yn 2013; sefydlwyd gorymdeithiau tebyg mewn sawl tref yn dilyn hynny, gan gynnwys Pwllheli, Caerfyrddin a Chaergybi.

Awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y llyfrau mae wedi'u hysgrifennu mae The Welsh National Anthem a'r gyfres The Phenomenon of Welshness: 'How Many Aircraft Carriers Would an Independent Wales Need?' ac 'Is Wales Too Poor to Be Independent?'[2][3]

Yn ei lyfrau gwleidyddol mae Siôn Jobbins weithiau'n troedio'r ffin denau rhwng pryfocio a chythruddo. Yn The Phenomenon of Welshness mae'n sôn am Frad y Llyfrau Gleision, dyfeisio Dydd Santes Dwynwen, radio answyddogol Cymraeg y 1960au, yr angen am brotestiadau iaith, Cymreictod cyfnewidiol Caerdydd ac Abertawe, a'r posibilrwydd o gael teulu brenhinol Cymreig newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 4 Rhagfyr 2014
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 4 Rhagfyr 2014
  3. Gwefan Amazon; adalwyd 4 Rhagfyr 2014