Wicipedia:Wicibrosiect Wici365

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd prosiect newydd yng nghyfarfod cynta'r Grwp Defnyddwyr yn Aberystwyth, sef Wiciprosiect Wici365. Daeth y syniad yn wreiddiol gan Defnyddiwr:Stefanik ac aeth rhai defnyddwyr ati'n syth i geisio creu un erthygl (swmpus!) y dydd; ymunodd eraill ymhen ychydig wythnosau. Mae croeso i unrhyw un ymuno - unrhyw dro!

Y nod yw ceisio cyfartaledd o un erthygl swmpus y dydd, dros gyfnod o flwyddyn!

Bydd pawb sy'n cyflawni'r gamp yn derbyn gwobr, a baner arbennig ar ei ddalen defnyddiwr (ee Uwch-Olygydd Anrhydeddus Wici365!)

Cyfarwyddiadau[golygu cod y dudalen]

Ychwanegwch eich henw isod, crewch ddolen a rhestrwch teitlau'r erthyglau newydd rydych yn eu creu, wrth fynd yn eich blaen.

Os ydych yn dechrau ar 5 Hydref 2018, byddwn yn cyfri eich herthyglau o 5 Hydref 2018 hyd at 5 Hydref 2019.

Ychwanegwch eich erthygl at eich rhestr, yn ddyddiol os fedrwch, gan ddilyn y fformat a osodwyd. Does dim rhaid ychwanegu sawl beit yw'r erthygl, ond mae croeso i chi wneud. Unrhyw awgrymiadau eraill - dalen Sgwrs os gwelwch yn dda!

Aelodau Wici365[golygu cod y dudalen]

Dyddiad cychwyn: 1 Ebrill 2018
Dyddiad sgwennu'r 365ed erthygl: 27 Chwefror 2019
Yes check.svg Cwblhawyd
Dyddiad ail gychwyn 1 Ebrill 2019
Dyddiad cychwyn: 1 Ebrill 2018
Dyddiad sgwennu'r 365ed erthygl: 23 Mawrth 2019
Yes check.svg Cwblhawyd
2020 - 137 erthygl (blwyddyn galendr)
Dyddiad sgwennu'r 365ed erthygl: 24 Mawrth 2019
Yes check.svg Cwblhawyd


Dyddiad cychwyn: 5 Gorffennaf 2018
Yes check.svg Cwblhawyd
Dyddiad sgwennu'r 365ed erthygl: 4 Gorffennaf 2019
Dyddiad cychwyn (Wici365): 25 Medi 2018
Dyddiad sgwennu'r 365ed erthygl: 24 Medi 2019
Yes check.svg Cwblhawyd
Dyddiad ail gychwyn (Wici732): 1 Ionawr 2020
Na chwblhawyd - 244 erthygl yn unig
Dyddiad ail gychwyn (Wici365): 1 Ionawr 2021