Catrin Dafydd (llenores)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Catrin Dafydd
Catrin Dafydd Bardd y Goron Awst 2018 cropped 4.jpg
Catrin Dafydd yn Awst 2018
Ganwyd 1982 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth awdur Edit this on Wikidata
Tad Dafydd Huws Edit this on Wikidata
Llofnod
Catrin Dafydd.JPG

Llenores llawrydd a nofelydd Cymreig ydy Catrin Dafydd (ganwyd 1982), sy'n dod o Waelod-y-Garth ger Pontypridd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Bu'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth a hi oedd Llywydd UMCA 2003–2004. Ei thad yw'r awdur Dafydd Huws.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hi wedi cyhoeddi dwy nofel, Pili Pala (2006) yn Gymraeg a "Random Deaths and Custard" (2007) yn Saesneg; a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn Tu Chwith a Dim Lol. Yn ogystal a llenydda mae hi'n ddiwyd fel digrifwr gyda'i chymeriad dychmygol o'r Wladfa, Evita Morgan, yn gwneud ymddangosiadau aml ar S4C. Mae hi'n teithio Cymru fel storiwraig ac yn cynnal gweithdai llenyddol mewn ysgolion. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd 2005. Roedd ymhlith y beirdd a sefydlodd nosweithiau annibynnol Bragdy'r Beirdd.

Yn ogystal a'i gyrfa llenyddol, mae hi hefyd yn ymgyrchydd iaith, bu ar un adeg yn Swyddog Ymgyrchu Deddf Iaith i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd yn chwarae piano i'r band Gilespi.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 gyda chyfres o gerddi ar y testun Olion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Catrin Dafydd yn ennill y goron , Golwg360, 6 Awst 2018.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]