Catrin Dafydd (actores)

Oddi ar Wicipedia
Catrin Dafydd
Ganwyd1938 Edit this on Wikidata
Bu farw2010 Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Am y llenores o'r un enw, gweler Catrin Dafydd (llenores).

Actores o Gymraes oedd Kathleen Ann Jones a adwaenwid fel Catrin Dafydd (193811 Tachwedd 2010),[1]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Lydia Tomos, mam Wali Tomos, yng nghyfres deledu C'mon Midffild!, ar S4C.[2]

Yn 1967/68 ymddangosodd ar HTV Cymru yn y ddwy gomedi-sefyllfa gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Ma' Pawb Isio Byw a Dai a Henri. Ysgrifennwyd y comediau gan Wil Sam a'i perfformiwyd gan Gwmni'r Gegin, Cricieth.

Yn ei gyrfa ymddangosdd mewn nifer o gynyrchiadau teledu gan gynnwys Gwen Tomos, Mae’n Wyllt Mr. Borrow, Madam Wen, Hafod Haidd a Bysus Bach y Wlad.

Fe'i magwyd yn Abersoch yn ferch i Dafydd a Laura Jones a roedd ganddi chwaer, Anna.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Kathleen ann Jones : Death. Daily Post (16 Tachwedd 2010). Adalwyd ar 20 Ionawr 2018.
  2.  Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010). Barn (Ionawr 2011). Adalwyd ar 20 Ionawr 2018.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.