W. S. Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wil Sam)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
W. S. Jones
Bro a Bywyd W S Jones (llyfr).jpg
Clawr un o lyfrau Wil Sam.
Ganwyd28 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw2007 Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg a oedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc, oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan y ffugenw W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 192015 Tachwedd 2007).

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramâu i’w perfformio yn Theatr y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.

Roedd yn briod â Dora Ann Jones, a chawsant ddwy ferch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith Wil Sam[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • W. S. Jones, Wil Sam, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.