W. S. Jones
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
W. S. Jones | |
---|---|
![]() Clawr un o lyfrau Wil Sam. | |
Ganwyd | 28 Mai 1920 ![]() Llanystumdwy ![]() |
Bu farw | 2007 ![]() |
Galwedigaeth | dramodydd ![]() |
Awdur Cymraeg a oedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc, oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan y ffugenw W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 1920 – 15 Tachwedd 2007).
Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramâu i’w perfformio yn Theatr y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.
Roedd yn briod â Dora Ann Jones, a chawsant ddwy ferch.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwaith Wil Sam[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tair Drama Fer (1962)
- Pum Drama Fer (1963)
- Tŷ Clap (1965)
- Dau Frawd (1965)
- Y Fain (1967)
- Dinas Barhaus: a thair drama arall (1968)
- Mae Rhywbeth Bach (1969)
- Y Toblarôn (1975)
- Dyn y Mynci (1979)
- Y Sul Hwnnw (1981)
- Ifas y Tryc (1983)
- Ifas Eto Fyth! (1987)
- Deg Drama Wil Sam (1995)
- Llifeiriau (1997)
- Ben Set (2002)
- Rhigymau Wil Sam (2005)
- Mân Bethau Hwylus: Cymeriadau Eifionydd (2005)
- Newyddion y Ffoltia Mawr (2005)
Astudiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- W. S. Jones, Wil Sam, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)