Neidio i'r cynnwys

C'mon Midffîld!

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o C'mon Midffild!)
C'mon Midffîld!
Enghraifft o:cyfres deledu, cyfres radio Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1982 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1994 Edit this on Wikidata
Genredrama-gomedi Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrAlun Ffred Jones Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cyfres ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld! Crëwyd y gyfres gan Alun Ffred Jones a Mei Jones.[1]

Yn 1982 cynhyrchwyd rhaglen beilot ar gyfer BBC Radio Cymru. Cafwyd cyfres radio yn 1986 gyda'r prif gymeriadau yn eu lle. Roedd y cast yn cynnwys Mei Jones, John Pierce Jones, Llion Williams, Sian Wheldon a Phylip Hughes. Recordiwyd y gyfres yn stiwdio Bryn Meirion ym Mangor gyda'r cynhyrchydd Elwyn Jones. Darlledwyd tair cyfres cyn trosglwyddo'r comedi i deledu yn 1988.[2]

Mae rhai yn credu fod y rhaglen yn seiliedig ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid am fod yr awdur Mei Jones a'r actor Bryn Fôn yn chwarae i'r clwb yn eu dyddiau coleg yn Aberystwyth.[3]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd y gyfres deledu gan Ffilmiau'r Nant ac fe'i ddarlledwyd gyntaf ar 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[4] Trosglwyddodd y prif actorion o'r gyfres radio ond daeth Bryn Fôn i chwarae 'Tecs'. Darlledwyd pum cyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, oedd yn chwarae y cymeriad poblogaidd 'Wali'.

Wedi pedair cyfres lwyddiannus, cynhyrchwyd ffilm ym 1992 a'i galw'n Midffîld - Y Mwfi. Wedi'r bumed gyfres, sef y gyfres olaf, cafwyd ffilm arall sef C'mon Midffîld! a Rasbrijam ym 1994. Er gwaetha adolygiadau cymysg i'r ffilm olaf, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grŵp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei hailddarlledu'n aml ar S4C.

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[5]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd sioe theatr gan Gwmni Theatr Gwynedd o’r enw Awê Bryncoch! a drama lwyfan gan Theatr Bara Caws o’r enw C’mon Midlaiff.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Penodau teledu

[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 11 DVD gan Sain rhwng 2005 [4] a 2007.

Cyfres 1

[golygu | golygu cod]
  • Y Maes Chwarae (DVD1)
  • Seren Ddisglair (DVD1)
  • Lladron y Nos (DVD1)
  • Traed Moch (DVD1)
  • Y Trip (DVD2)
  • Nadolig Bryncoch (DVD 2) new Nadolig Llawen? (video 2) - yr un pennawd?

Cyfres 2

[golygu | golygu cod]
  • Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
  • Craig o Arian (DVD2)
  • Bryn o Briten (DVD3)
  • Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
  • Gweld Sêr (DVD3)
  • Rhyfal Cartra (DVD3)
  • Match o' Ddy De (DVD4)

Cyfres 3

[golygu | golygu cod]
  • Yr Italian Job (DVD4)
  • Il Lavoro In Italia (DVD4)
  • Yn Nhŷ Fy Nhad (DVD5)
  • Tibetans v Mowthwalians (DVD5)

Cyfres 4

[golygu | golygu cod]
  • O Mam Bach (DVD5)
  • Meibion Bryncoch (DVD7)
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd (DVD7)
  • Fe Gei Di Fynd I'r Bôl (DVD7)
  • 'Eira Mân, Eira Mawr' (DVD8)
  • Yr Etholedig Rai (DVD8)
  • Cymorth Hawdd Ei Gael (DVD8)
  • Yr Alffa A'r Omega (DVD9)

Cyfres 5

[golygu | golygu cod]
  • Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
  • Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
  • Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
  • Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
  • Y Cocyn Hitio (DVD10)
  • Dechrau'r Diwedd (DVD10)

Ffilmiau unigol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "C'mon Midffild a Rasbrijam". Sain. Cyrchwyd 2025-10-09.
  2. "Yn ôl i Midffîld: Y cast yn hel atgofion am y gyfres eiconig". BBC Cymru Fyw. 2025-03-27. Cyrchwyd 2025-10-09.
  3. "Clwb pêl-droed yn dathlu 60" (yn Saesneg). 2007-06-11. Cyrchwyd 2025-10-09.
  4. 4.0 4.1 C'Mon Midffild? This is a friend Archifwyd 2007-06-09 yn y Peiriant Wayback Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
  5. Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant[dolen farw]