John Pierce Jones
| John Pierce Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Mai 1946 Niwbwrch |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Actor, ysgrifennwr a chynhyrchydd o Gymru ydy John Pierce Jones (ganwyd 10 Mai 1946),[1][2] sy'n enwog am ei ran fel Arthur Picton gyda'i hoff reg, Asiffeta, yn y rhaglen deledu C'mon Midffild! ar S4C.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd John Pierce Jones yn Niwbwrch, Sir Fôn. Pan oedd yn 12 oed ail-briododd ei fam a symudodd y teulu i Stevenage ar gyffiniau Llundain. Daeth yn ôl i Gymru wedi gadael yr ysgol ac ymunodd â'r heddlu gan ddilyn yn ôl troed ewythr iddo. Cychwynodd ei yrfa gyda'r heddlu yn Nolgellau ond roedd yn anhapus yn y swydd a roedd a'i fryd ar fynd yn actor. Aeth i Goleg Harlech ac yna i Brifysgol Cymru Bangor. Cafodd ambell gyfle i gael profiad o fyd y theatr, yn Theatr y Gegin, Cricieth.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyd-ysgrifennodd y gyfres gomedi teledu Teulu'r Mans gyda Wiliam Owen Roberts, y gyfres Watcyn a Sgrwmp gyda Wynford Ellis Owen yn 1993-1994, a'r gyfres Yr Aelod ar gyfer BBC Radio Cymru gydag ef yn 1994, ac ail gyfres yn 1997. Cymerodd ran yn y rhaglen Y Briodas Fawr ar S4C yn 2006, lle roedd rhaid iddo ddylunio ffrog.[4]
Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.[5]
Bu yn y ffilm gyntaf i ymddangosodd ar S4C ym 1983, sef Owain Glyndŵr.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod i Inge Hansen, Americanes a anwyd yn nghanolfan y Llynges Americanaidd yn Siapan. Mae Igne eisoes wedi dysgu Cymraeg.[2][6] Mabwysiadodd y cwpl fab o Haiti yn 2004 a enwyd yn Iwan Prys-Jones.[2] Mae Iwan yn chwaraewr rygbi proffesiynol sydd wedi chwarae dros Gleision Caerdydd, Casnewydd a thîm Saith-bob-ochr Cymru.[7]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Fel actor
Theatr
[golygu | golygu cod]- Gymerwch chi Sigaret?
- Awê Bryncoch!
- Tri Chryfion Byd
- Y Rhai a Lwydda
- Rwj Raj
- Eli Babi
- Gweld Sêr
- Gwin Coch a Fodca
- Y Lefiathan
- Dafydd y Glo
Teledu a Ffilm a Radio
[golygu | golygu cod]- How Green Was My Valley (cyfres deledu 1975)
- Owain Glyndŵr (1982)
- Madam Wen
- Hafod Henri (1984)
- Dyddiadur Dyn Dwad
- Gwaed ar y Sêr
- Rhodd Mam
- Yr Anialwch
- Streetlife
- Miri Mawr
- Ma Ifan 'Ma
- C'mon Midffîld! (5 cyfres)
- C'mon Midffîld! a Rasbrijam
- Midffîld! - Y Mwfi
- 9 tan 9
- Shakespeare -Y Dramâu wedi'u Hanimeiddio
- Cysgodion Gdansk (1987)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr 'Teledu Cymunedol Mon' o Dy'r Cwmnïau.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 'Yr anrheg orau erioed' BBC 24 Rhagfyr 2004
- ↑ Hunangofiant - Adolygiad Gwales. Adalwyd ar 26 Ionawr 2016.
- ↑ Let celebs organise our wedding ..., Peter Morrell Western Mail 18 Tachwedd 2006
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ "Cyfweliad gyda Igne Pierce Jones, Haf 2000". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
- ↑ "New Singing – Iwan Pyrs Jones – NEWPORT RFC" (yn Saesneg). 2024-07-19. Cyrchwyd 2025-09-07.