Wiliam Owen Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wiliam Owen Roberts
Ganwyd 1960 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor o Gymro yw Wiliam Owen Roberts (ganed 1960, Bangor).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ym Mangor ac addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn 1981 gyda gradd mewn llenyddiaeth ac astudiaethau theatr. Astudiodd gwrs MA ar ddramâu teledu, gan ganolbwyntio ar weithiau Dennis Potter. Gweithiodd gyda chwmni theatr Cyfri Tri ac yna fel golygydd sgript gyda HTV cyn dod yn llenor llawn-amser ym 1989.[1]

Ei waith enwocaf efallai yw ei ail nofel Y Pla, sy'n seiliedig ar effaith y Pla Du yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Enillodd y nofel iddo wobr Llyfr y Flwyddyn 1988. Cyfieithwyd i'r Saesneg gan Elisabeth Roberts o dan y teitl Pestilence ym 1991,[2] ac mae hefyd wedi cael ei chyfieithu i'r Almaeneg ac Iseldireg.

Mae wedi sgriptio nifer o raglenni teledu Cymraeg yn cynnwys y ffilmiau Cymru Fach (2009) a Provence (1998) a'r cyfresi Teulu'r Mans (1987-90); Pris y Farchnad (1991-93); Yr Asembli (2000-01); ac yn gyd-awdur drama 35 Diwrnod.[3]

Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn unwaith eto yn 2009 am ei nofel Petrograd.

Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'u tair merch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  WILLIAM OWEN ROBERTS. British Council; Contemporary Writers.
  2.  Gwybodaeth Lyfryddol: Pestilence. Gwales.
  3. 35 Diwrnod - Awduron


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.