Neidio i'r cynnwys

Ysgol Eifionydd, Porthmadog

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Eifionydd, Porthmadog
Logo Ysgol Eifionydd
Arwyddair Ymlaen
Sefydlwyd (Cyn 1894)
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Dewi Bowen
Lleoliad Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9HS
AALl Cyngor Gwynedd
Disgyblion 487[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Lliwiau Bwrgwyn
(Du, brown a melyn gynt)
Gwefan eifionydd.gwynedd.sch.uk


Ysgol gyfun ddwy-ieithog yw Ysgol Eifionydd, Porthmadog, gyda'r rhan fwyaf o'i disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Fe'i lleolir wrth ymyl Rheilffordd Eryri ym Mhorthmadog ac mae'n gwasanaethu ardal De-Ddwyrain Dwyfor gan gynnwys Porthmadog a Chricieth.

Roedd 487 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, o'i gymharu â 534 yn 2005.[1][2]

Mae'r ysgol dros gan mlwydd oed. Un o'i chyn-ddisgyblion enwocaf oedd yr ysgolhaig a'r bardd T. H. Parry-Williams a aeth yno yn 11 oed yn 1898. Roedd yn arfer bod yn ysgol ramadeg yn hytrach nag yn ysgol gyfun; Ysgol Ganolradd Porthmadog oedd ei henw ar y pryd.

Un o gyn-athrawon Ysgol Eifionydd yn yr adran gelf ac arlunio oedd Rob Piercy, sydd bellach yn beintiwr llwyddiannus.

Cyn-ddisgyblion

[golygu | golygu cod]

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol

[golygu | golygu cod]

Nodir: Daw 17% o'r plant o du-allan i dalgylch yr ysgol. (2005)[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2  Len Jones (Hydref 2005). Adroddiad Arolygiad Ysgol Eifionydd, 5–Hydref 2005. Estyn. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
  2. "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2007-10-25.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.