Dyl Mei

Oddi ar Wicipedia
Dyl Mei
GanwydPenrhyndeudraeth Edit this on Wikidata
Man preswylPenrhyndeudraeth, Garndolbenmaen, Porthmadog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cysylltir gydaTudur Owen Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd recordiau a chyflwynydd radio yw Dylan Meirion Roberts (ganwyd 16 Mehefin 1981) sy'n fwy adnabyddus fel Dyl Mei.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mhenrhyndeudraeth yn fab i Huw Meirion ('Monti') a Louie Roberts, Rheolwr Cyffredinol Siop Lyfrau ym Mhortmeirion. Symudodd ei deulu i Borthmadog ac yna Garndolbenmaen. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Mae ganddo ddau frawd, Osian a 'Monti Bach'; un chwaer, Nia; a chath o'r enw Peter Glyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd yn rheolwr ar stiwdio recordio Blaen y Cae ac yn gweithio fel cynhyrchydd/peiriannydd cerddoriaeth. Bu'n gyfrifol am label Slacyr. Bellach mae'n gweithio i'r BBC ym Mangor gan gynnwys cyfrannu at raglen Tudur Owen ar Radio Cymru.

Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o gerddorion, gan gynnwys Genod Droog, Mc Mabon, Pep Le Pew, Vates!, Kentucky AFC, Tecwyn Ifan, Texas Radio Band, Spoonidols, The Locusts, Gwyneth Glyn, Plant Duw, Pwsi Meri Mew, MC Saizmundo, Y Llongau, Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Cowbois Rhos Botwnnog.

Mae hefyd yn athro technoleg cerddoriaeth yn ei amser sbâr.

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]