Pep Le Pew
Jump to navigation
Jump to search
Band hip hop o Borthmadog oedd Pep Le Pew, aelodau'r grŵp yw Aron Elias, llais, gitâr a gitâr fas; Dyl Mei, synths, allweddellau a samplau; Dave Thomas o Gaerdydd, Ed Holden, MC a scratch DJ, o Amlwch, a Danny Piercy, offerynau taro. Enwyd y band ar ôl cymeriad cartŵn Warner Brothers, Pepé Le Pew.
Ystyrir mai Pep Le Pew oedd y grŵp hip hop Cymraeg cyntaf.[1]
Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Mwyafrif, Sengl, 2001, (Fitamin Un)
- Y Da, Y Drwg Ac Yr Hyll, Albym, 2001 ()
- Hiphopcracy/Y Magwraeth, Sengl, 2002, ()
- Un Tro Yn Y Gorllewin, Albym, 2004 (Slacyr)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Disco Cymraeg. BBC Radio Cymru. Adalwyd ar 7 Medi 2014. "Pep Le Pew oedd y band hip-hop Cymraeg cynta yng ngwir ystyr y gair - hynny yw, lleisiau, dryms, crafu recordiau, gitars, allweddellau a samples i gyd i'w gweld a'u clywed yn fyw o'ch blaenau ar y llwyfan."
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
|