Genod Droog
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Dod i'r brig | 2005 |
| Dod i ben | 16 Tachwedd 2008 |
| Dechrau/Sefydlu | 2005 |
| Genre | hip hop |
| Yn cynnwys | Ed Holden |
| Dynodwyr | |
Roedd Genod Droog yn fand o ardal Dwyfor a Garndolbenmaen yn bennaf, â genre Hip-hop, Rap ac Indie. Ffurfiwyd y band yn 2005, wrth i Carwyn Jones (Kim De Bills) a Ed Holden (Mr Phormula) gyfarfod am y tro cyntaf mewn cell heddlu yng Nghaerdydd. Ymunodd Dyl Mei a Gethin Evans yn hwyrach, yn ogystal a'r bardd a'r rapiwr Aneirin Karadog (neu Nine Tonne fel ei adnabyddir). Maent yn recordio ar label Dyl Mei, Slacyr, yn ei stiwdio, Blaen y Cae yng Ngarndolbenmaen. Chwaraeodd y band fyw yn nifer o wyliau cerddorol mwyaf blaenllaw Cymru yn cynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, Wakestock, Y Proms Trydanol, ac eu gig olaf yng Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd yn 2008.
Rhyddhawyd unig ddisgyddiaeth y Genod Droog (heblaw ymddangosiad Breuddwyd Oer ar Dan y Cownter 2), yr albwm "Ni Oedd y Genod Droog" yn Awst 2008.