Sŵn (gŵyl)
Gŵyl gerddoriaeth yw Sŵn (Saesneg: Sŵn Festival). Curadur yr ŵyl yw DJ BBC Radio 1 Huw Stephens. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol yng Nghaerdydd ers 2007.
Cynhaliwyd y rhifyn cyntaf ar 9–11 Tachwedd 2007. Roedd y bandiau a chwaraeodd yn yr ŵyl yn cynnwys The Cribs, Beirut, David Holmes, Edwyn Collins a Cherryghost.
Mae ffilm a chelf hefyd yn chwarae rhan allweddol yn yr ŵyl, ac mae dant amrywiol Stephens at gerddoriaeth yn cael ei arddangos yn y rhaglen. Mae bandiau Cymreig a Chymraeg yn cael eu cynyrchioli'n gryf yn y rhaglen.
Cynhaliwyd gŵyl 2008 ar 14–16 Tachwedd 2008. Roedd y bandiau a chwaraeodd yn yr ŵyl yn cynnwys Golden Silvers, Truckers of Husk,Micachu And The Shapes, Little Comets, Young Marble Giants, Euros Childs, Sweet Baboo a Rob Da Bank.
Bydd gŵyl 2009 yn cael ei chynnal ar 22–24 Hydref 2009.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol gŵyl Sŵn
- Adolygiad o ŵyl Sŵn 2008 Archifwyd 2011-07-19 yn y Peiriant Wayback