Tecwyn Ifan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Canwr gwerin Cymraeg yw Tecwyn Ifan (ganwyd 1952 yng Nglanaman)[1]. Mae'n cyfansoddi'r alawon a'r geiriau ei hun, fel arfer. Daeth i enwogrwydd cenedlaethol gyda'i gân "Y Dref Wen" (Sain, 1977). Mae'n canu ar sawl thema gan gynnwys pobloedd brodorol America a'r Fro Gymraeg.

Gweinidog ydoedd cyn iddo ymddeol i gyffiniau Pentrefoelas, lle roedd ei wraig yn athrawes.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o'r grŵp Y Perlau Taf rhwng 1969 ac 1972 a recordiodd pum record fer i Welsh Teldisc a Cambrian. Mae'n ddiddorol nodi iddo chwarae'r gitâr drydanol ar ei recordiad olaf ond un i'r Perlau Taf, offeryn na chwaraeodd byth wedyn.

Astudiodd i fod yn weinidog yr efengyl yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, ac ym 1972 ffurfiodd Ac Eraill gyda Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards ("Phil Bach"). Rhyddhawyd tair record fer i Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur', 'Tua'r Gorllewin' a 'Cwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o Fudiad Adfer erbyn hyn, ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975. Sgrifennwyd caneuon newydd ar gyfer y sioeau cerdd Heledd ac Anwariad a gynhaliwyd ym 1975 ac 1976.

Campwaith Tecwyn Ifan yw Y Dref Wen (Sain, 1977) - yr albwm cyntaf a'r un gorau. Mae cysgod Waldo a thristwch diwedd bro yn gorwedd yn drwm dros y caneuon yma. Fe'i gynhyrchwyd - fel bron pob albwm arall - gan Hefin Elis.

Mae Dof Yn Ôl (Sain, 1978) yn cynnwys un ochr o ganeuon sydd yn ymwneud ag Amos y proffwyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Goleuni Yn Yr Hwyr, gyda chlawr hyfryd gan Jac Jones, braidd yn siomedig. Ond mae 'na uchafbwyntiau fel y ddwy gân 'Cŵn Annwn' a 'Rwy'n Dy Weld'.

Erbyn Edrych I'r Gorwel (Sain, 1981) roedd e'n amlwg bod Tecwyn Ifan wedi colli ei ffordd yn gerddorol, ac roedd y caneuon yn dechrau swnio'n flinedig. Serch hynny, yr albwm dilynol, Herio'r Oriau Du (Sain, 1983), oedd ei record orau ers Y Dref Wen. Fe'i recordiwyd yn dilyn Rhyfel Y Malfinas, ac mae'n cynnwys sawl cân brotest fel 'John Bull', 'Hiroshima' a 'Marina'.

Roedd rhaid aros saith mlynedd cyn Stesion Strata (Sain, 1990) a oedd yn gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a chaneuon wedi eu cyfiethu fel 'The Streets Of London' gan Ralph McTell.

Recordiwyd Sarita saith mlynedd yn ddiweddarach, ond y tro yma, gyda Tudur Morgan wrth y lliw, a gyda band oedd yn cynnwys dau cyn aelod o'r grŵp Dom.

Ar ôl seibiant o wyth mlynedd ymddangosodd Wybren Las, ac unwaith eto gyda chynhyrchydd newydd, sef Dyl Mei. Newidiodd y band unwaith eto, a chwaraewyd y drymiau gan ei fab Gruffudd o'r Texas Radio Band.

Discograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Tecwyn Ifan
  • Y Dref Wen (Sain), 1977
  • Dof Yn Ôl (Sain), 1978
  • Goleuni Yn Yr Hwyr (Sain), 1979
  • Edrych I’r Gorwel (Sain), 1981
  • Herio’r Oriau Du (Sain), 1983
  • Stesion Strata (Sain), 1990
  • Y Goreuon (Sain), 1995
  • Sarita (Sain), 1997
  • Wybren Las (Sain), 2005
  • Llwybrau Gwyn (Sain), 2012

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.