Llwybrau Gwyn (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Llwybrau Gwyn
Clawr Llwybrau Gwyn
Albwm stiwdio gan Tecwyn Ifan
Rhyddhawyd Mehefin 2012
Label Sain

Albwm gan y canwr Tecwyn Ifan yw Llwybrau Gwyn. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Sain.

Cafodd bocs set cyflawn Tecwyn Ifan ei ryddhau erbyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012. Roedd hefyd yn cynnwys saith o draciau newydd arbennig.

Dewiswyd Llwybrau Gwyn yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae’n llwyddo i gyfansoddi caneuon oesol, yn hen fel aur ond yn feiddgar eu neges ar yr un pryd...Pwy a ŵyr, efallai mai yn y mwstas ‘na mae’r majic.

—Casia Wiliam, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]