Jac Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jac Jones
Ganwyd 1 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Gwalchmai Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Darlunudd llyfrau plant Cymraeg yw Jac Jones (ganed 1 Mawrth 1943).

Fe'i ganed yng Ngwalchmai, Ynys Môn, ac fe'i magwyd ym Mryste tan yn 7 oed, cyn symyd yn ôl i Walchmai. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gwalchmai ac Ysgol Uwchradd Llangefni.

Mae wedi darlunio llyfrau i blant ers canol y 70au.[1] Enillodd wobr Tir na n-Og deirgwaith, ym 1989, 1990 a 1998. Yn 2000, ysgrifenodd yn ogystal a darlunio, llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg – Betsan a’r Bwlis ac Alison and the Bully Monsters. Ymysg ei ddarlunwaith mae'r llyfrau Penillion y Plant, Trysorfa gan T. Llew Jones a nifer fawr o lyfrau Mary Vaughan Jones a chymeriadau iconig megis Sali Mali a Jac y Jwc. Addas felly oedd iddo enill Tlws Mary Vaughan Jones yn 2012, tlws a gyflwynir i rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbenig i lenyddiaeth plant Cymraeg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Rhestr Awduron Cymru: Jones, Jac. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  Anrhydeddu Darlunydd ac Awdur Llyfrau Plant Tlws Mary Vaughan Jones 2012 (13 Ebrill 2012).

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]