Ac Eraill

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ac Eraill, album cover.jpg
Gwybodaeth gefndirol
Cerddoriaeth Gwerinol,
Offeryn(au) cerdd Gitâr, Mandolin, Drymiau, Gitâr Fâs
Blynyddoedd 1980au
Cysylltiedig Y Tebot Piws,
Mudiad Adfer
Dylanwadau Iwerddon
Cyn aelodau
Cleif Harpwood, Tecwyn Ifan, Alun 'Sbardun' Huws, Phil Edwards, Iestyn Garlick John Morgan, Huw (Bala) Williams
Prif offeryn(au)
Telyn, Gitâr, Mandolin, Drymiau, Gitâr Fâs

Grŵp poblogaidd, Cymraeg a gweriniaethol o'r 1970au oedd Ac Eraill a ffurfiwyd yn 1972. Roedd aelodau gwreiddiol y grŵp, Tecwyn Ifan yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor , Cleif Harpwood, Iestyn Garlick yng Ngholeg y Drindod a Phil Edwards ("Phil Bach") yng Nghaerdydd. Rhyddhawyd tair record fer ar label Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, ailffurfiwyd y grŵp yn un pwrpas er mwyn rhyddhau record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Cysylltir y grŵp gyda Mudiad Adfer a'i athroniaeth o ailfeddiannu a datblygu'r Fro Gymraeg yn hytrach na'r ardaloedd a Seisnigiwyd. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd y chwyldro cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yn dod i'w lawn dwf yng Nghymru. O ran cerddoriaeth, dyma flynyddoedd y datblygu mawr ym maes recordiau Cymraeg, a hwnnw’n adlewyrdchu’r bwrlwm a'r creadigrwydd rhyfeddol yn y byd canu gwerin, pop a roc Cymraeg. Yn y byd recordio, hwnnw oedd degawd aur Stiwdio Gwernafalau, Cwmni Recordiau Sain. Yn ennill eu lle yn rheng flaen y chwyldro cerddorol hwnnw mae Ac Eraill, y lleisiau llawn harmoni, wedi eu priodi â chaneuon gafaelgar a heriol Tecwyn Ifan, y peiriant a yrrai'r drol, ond ymunodd Phil Edwards, Iestyn Garlick a Alun 'Sbardyn' Huws a ddaeth i'r amlwg drwy Ac Eraill, ynghyd â Cleif Harpwood, Huw Bala a John Morgan.[1]

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur' ar y cyd efo Clive Harpwood, 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o Fudiad Adfer ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: 'Tua'r Gorllewin', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.[2] Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, Addewid (SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Faban Bach Clyd'.

Disgograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma restr o ganeuon gan Ac Eraill. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i Cwmni Recordiau Sain.[3]

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Aderyn Bach
2015 Sain SCD2729
Baban Bach Clud
2015 Sain SCD2729
Becca
2015 Sain SCD2729
Catraeth
2015 Sain SCD2729
Cenwch im Gan
2015 Sain SCD2729
Cwm Nantgwrtheyrn
2015 Sain SCD2729
Dilyniant o Ganeuon Mor
2015 Sain SCD2729
Dyn Dall
2015 Sain SCD2729
Ffa La La
2015 Sain SCD2729
Glannaur Lli
2015 Sain SCD2729
Gwely Bwrdd a Beibl
2015 Sain SCD2729
Gwin
2015 Sain SCD2729
Hen Wr or Coed
2015 Sain SCD2729
Llais y Fro
2015 Sain SCD2729
Maer Werin yn Fyw
2015 Sain SCD2729
Marwnad yr Ehedydd
2015 Sain SCD2729
Nia Ben Aur
2015 Sain SCD2729
Te Deg
2015 Sain SCD2729
Tuar Gorllewin
2015 Sain SCD2729

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.sainwales.com; adalwyd 25 Awst 2017.
  2. www.discogs.com; adalwyd 25 Awst 2017.
  3. sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.