Iestyn Garlick
Iestyn Garlick | |
---|---|
Ganwyd | Kevin Donnelly Gorffennaf 1952 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu |
Tad | Raymond Garlick |
Actor, cynhyrchydd a cyflwynydd teledu o Gymro ydy Iestyn Garlick (ganwyd Gorffennaf 1952).[1] Mae'n adnabyddus am ei gymeriad 'Jeifin Jenkins' a oedd yn cyflwyno nifer o raglenni plant ar S4C yn cynnwys HAFoc, Jeifin a Jeifin yn bobman.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe anwyd Iestyn Garlick yn Nazareth House, Abertawe yn y 1950au, yn blentyn i Mary Rose Donnelly, gyda'r enw Kevin Donnelly. Rhai misoedd yn ddiweddarach cafodd ei fabwysiadu gan y bardd Raymond Garlick a'i wraig Elin a rhoddwyd yr enw Iestyn Kevin Garlick iddo.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn aelod o'r grŵp Ac Eraill a perfformiodd yn yr opera roc Nia Ben Aur.
Yn y 1970au cyflwynodd y sioe gerddoriaeth Twndish. Bu'n cyflwyno ar y rhaglen i blant HAFoc fel ei gymeriad Jeifin Jenkins. Roedd yn un o'r cyflwynwyr gwreiddiol ar y rhaglen gylchgrawn Heno yn 1990. Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C yn cynnwys y sioeau cwis Hollol Bananas, Cwist a Sgrin Ti Syniad a'r rhaglenni adloniant Traed Oer, Gemau Heb Ffiniau a Penwythnos Mawr.
Mae'n un o sefydlwyr cwmni cynhyrchu teledu Antena.[3]
Actiodd yn y ffilm Madam Wen (1982) a'r cyfresi teledu Eye of the Dragon (1987) a The Life and Times of David Lloyd George (1981).[4]. Mae'n chwarae rhan y prifathro 'Jim Gym' yn y gyfres deledu Rownd a Rownd.
Mae hefyd wedi bod yn gyhoeddwr cyn gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tŷ'r Cwmniau - Iestyn Kevin Garlick. Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 1 Ionawr 2021.
- ↑ Safel Cynhyrchu S4C; adalwyd 16 Mehefin 15. Disgrifiad o raglen O'r Galon: Stori Iestyn, i'w darlledu yn 2016.
- ↑ Antena: 10 o swyddi yn y fantol
- ↑ Gwefan IMDb Adalwyd 20 Rhagfyr 2010
- ↑ "The late Huw Ceredig’s best friend Iestyn Garlick on what made the actor so special", WalesOnline; adalwyd 26 Rhagfyr 2011
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Iestyn Garlick ar wefan Internet Movie Database