Ysgol y Gorlan
Ysgol gynradd gymunedol[1] naturiol Gymraeg, ym mhentref Tremadog, Gwynedd, ydy Ysgol y Gorlan. Sefydlwyd yr ysgol ym 1859. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed[1] o'r pentref a’r ardal gyfagos sef, Golan, Cwmystradllyn, Penmorfa, Treflys a Phrenteg.[2]
Y pennaeth presennol yw Mr Rhys Meredydd Glyn,[1] sydd wedi bod yn y swydd ers Rhagfyr 1992. Enillodd yr ysgol y Marc Safon gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn 2000. Roedd 102 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2002, yn ogystal a 13 o blant meithrin rhan-amser. Disgrifwyd safon yr addysg yn gyffredinol fel da gan Estyn yn 2002 ac 2008, ac yn dda iawn mewn sawl maes.[2][3] Arhosodd niferau'r disgyblion yn weddol gyson gyda 106 yn 2008, ac 16 o blant meithrin.[2]
Dim ond tua hanner y disgyblion ddaw o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, ond gall 80% ohonnynt siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[2]
Wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol, aiff y disgyblion ymlaen i Ysgol Eifionydd, Porthmadog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Dalgylch Porthmadog>Ysgol y Gorlan. Cyngor Gwynedd. Adalwyd ar 5 Ionawr 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Adroddiad arolygiad Ysgol y Gorlan, 22 Ebrill 2008. Estyn (26 Mehefin 2008).
- ↑ Adroddiad arolygiad Ysgol y Gorlan, 10–12 Mehefin 2002. Estyn (12 Awst 2002).