Sian Wheldon
Gwedd
| Sian Wheldon | |
|---|---|
| Ganwyd | 1960 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
Actores ac athrawes Cymraeg ydy Sian Wheldon (ganwyd 1960).[1] Mae'n adnabyddus i nifer oherwydd ei rôl fel Sandra yn y rhaglen C'mon Midffild! tua diwedd yr 1980au a dechrau'r 1990au. Ymddangosodd hefyd ar raglen EastEnders a The Bill.
Yn 2002, enwyd Sian Wheldon yn y papurau fel un o'r rhai a geisiodd atal dynes a oedd yn byw yn ei char yn Llundain, gael ei throi allan gan y cyngor. Roedd Sian yn byw yn Llundain ar y pryd.[2]
Bu hefyd yn athrawes ddrama yng Ngholeg Menai. Erbyn hyn mae'n byw yn Llanfairfechan ac ers 2008 mae'n athrawes yn Ysgol Friars ym Mangor lle mae hi'n dysgu cymdeithaseg. Mae ganddi dri o blant.
Teledu
[golygu | golygu cod](detholiad)
- C'mon Midffild!, Ffilmiau'r Nant
- Un Nos Ola Leuad, 1991, Endaf Emlyn
- Jabas (1986)
- Jabas Jones (1990) ffilm
- Midffîld - Y Mwfi (1992) ffilm
- Tipyn o Stad
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 19 November 2018.
- ↑ The lady in the car 8 Mai 2002
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Sian Wheldon ar wefan Internet Movie Database