Neidio i'r cynnwys

Mali Harries

Oddi ar Wicipedia
Mali Harries
Ganwyd6 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
TadPhylip Harries Edit this on Wikidata
PriodMatthew Gravelle Edit this on Wikidata

Actores teledu a ffilm o Gymru yw Mali Rhys Harries (ganwyd 6 Gorffennaf 1976).[1] Mae hi wedi bod yn gweithio ym myd teledu ers 1999 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu Cymraeg a Saesneg fel The Bill, The Indian Doctor a Caerdydd.

Yn fwy diweddar, mae Harries wedi dod yn adnabyddus am ei gwaith gyda S4C, yn enwedig dramâu llwyddiannus fel Y Gwyll, Un Bore Mercher a’r sebon Pobol y Cwm.

Yn 2010, cyrhaeddodd Harries a'i gwr, Matthew Gravelle restr fer gwobrau BAFTA Cymru[2] - Harries am ran Kate yn y gyfres deledu Caerdydd.

Rhwng 2013 a 2016 roedd Harries yn chwarae rhan DI Mared Rhys, un o'r prif rannau yng nghyfres dditectif Y Gwyll ar S4C (a'r fersiwn Saesneg Hinterland).[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar ôl iddi raddio o'r Old Vic ym Mryste, canolbwyntiodd ar weithio ym myd y theatr am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company am gyfnod.

Mae Harries yn briod â'r actor Matthew Gravelle. Mae'r cwpl wedi chwarae eu priod/partner ar y sgrîn mewn sawl sioe deledu ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd.[4]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
BlwyddynFfilmRhanNodiadau
2002Dirgelwch Yr OgofLucille
2003Y MabinogiCigfaLlais yn unig
2006Sixty SixMrs Shivers
2008Heavenly FatherSheley
2010Leap YearAir Lingus Rep 1
2010RhwydEirlys

Teledu

[golygu | golygu cod]
BlwyddynTeitlRhanNodiadau
1999Dalziel and PascoeYoung Cissy KohlerPennod: Recalled to Life
2000P.O.V.Gloria
2000Midsomer MurdersNurse O'CaseyPennod: Blue Herrings
2001The BillWendy PikePennod: Crush
2002–2007Foyle's WarJane Milner
2003The Inspector Lynley MysteriesNancyPennod: A Suitable Vengeance
2003Final DemandCorinne
2003ByronAnna Rood/Fletcher
2003Holby CityKaren EdwardsPennod: Accidents will Happen
2004May 33rdSarah Sorensson
2004–2007Pentre BachJiniPrif ran
2005The BillMandy Phelps
2005Doctor WhoCathyPennod: Boom Town
2006–2010CaerdyddKate Marshall5 cyfres
2006Brief EncountersJulie Owen
2006Coming Up ShelleyPennod: Heavenly Father
2009MurderlandWPC Hart2 bennod
2006, 2011, 2012DoctorsSawl
2010–2013The Indian DoctorMegan EvansPrif ran
2010Pen TalarSiân Lewis
2009–2011Ar y TracsSophie Thomas
2011CasualtyElaine Armstrong
2011Baker BoysLucy
2012The Best of MenShirley BowenFfilm deledu
2012 The Richard Burton Diaries Adroddwr
2012Being HumanLisa Monkton
2013-2016Great Welsh WritersAdroddwr
2013-2016Y GwyllDI Mared RhysPrif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Hinterland.
2015CriticalNerys MerrickPrif ran
2015LewisSarah AlderwoodPennod: What Lies Tangled
2016New BloodMP Gwynn Hughes
2016-presennolY DitectifCyflwynyddCyfres ddogfen S4C
2017Un Bore MercherBethan PricePrif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Keeping Faith.
2018-presennolPobol y CwmJaclyn Parri
2024The WayDee Driscoll

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
  2. Why Bafta Cymru 2010 is a family affair, Western Mail, 21 Mai 2010; adalwyd 28 Medi 2010
  3. Cymeriadau Y Gwyll Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback, S4C; adalwyd 12 Rhagfyr 2013
  4. "Wedding of the Year pair look back". The Western Mail. 9 Ebrill 2011.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]