The Way

Oddi ar Wicipedia

Cyfres deledu yn tair rhan yw The Way, a grëwyd gan James Graham, Michael Sheen ac Adam Curtis. Gwnaeth Sheen cyfarwyddu o sgript Graham. Mae’r gyfres yn digwydd yn bennaf ym Mhort Talbot yn y 2020au, lle bu terfysgoedd o ganlyniad i broblemau yn y gwaith dur. Nid oedd y beirniaid yn hoffi'r rhaglen ar y cyfan.

Datblygiad[golygu | golygu cod]

Ym mis Chwefror 2023 cyhoeddwyd bod y BBC ar fwrdd y prosiect a ysgrifennwyd gan James Graham ac a gyfarwyddwyd gan Michael Sheen, a grëwyd gan Sheen a Graham gydag Adam Curtis . Derek Ritchie yw cynhyrchydd a Bethan Jones yw cynhyrchydd gweithredol i Red Seam, a Rebecca Ferguson i'r BBC. Mae ITV Studios yn ddosbarthwr rhyngwladol a darparwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. [1]

Ffilmio[golygu | golygu cod]

Digwyddodd y ffilmio yn Neuadd y Sir, Trefynwy, ym mis Mai 2023. [2] Digwyddodd y rhan fwyaf o'r ffilmio ym Mhort Talbot,[3] rhwng mis Ebrill a misMehefin 2023. [4] Ffilmiwyd golygfeydd eraill yn Abertawe a'r Fenni.[5]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Steffan Rhodri fel Geoff Driscoll, stiward undeb llafur yng ngwaith dur Port Talbot.
  • Mali Harries fel Dee Driscoll, gwraig Geoff yn gyn-wraig ac yn fam i Thea ac Owen.
  • Sophie Melville fel Thea Driscoll, heddwas sy'n byw ym Mhort Talbot gyda'i theulu a'i mab ifanc.
  • Callum Scott Howells fel Owen Driscoll, brawd Thea, sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau.
  • Teilo James Le Masurier fel Rhys Driscoll, mab ifanc Thea a Dan.
  • Michael Sheen fel Denny Driscoll, diweddar dad Geoff, a gymerodd ran yn streic y glowyr yn 1984.
  • Maja Laskowska fel Anna, mewnfudwr Pwylaidd a ffrind Owen.
  • Aneurin Barnard fel Dan, gwr Thea, yn gweithio yn yr Almaen.
  • Mark Lewis Jones fel Glynn, gweithiwr dur ym Mhort Talbot.
  • Matthew Aubrey fel Neil Griffiths, MS lleol.
  • Tom Cullen fel Jack Price, AS Port Talbot.
  • Luke Evans fel Hogwood, asiant y llywodraeth o'r enw "The Welsh Catcher".
  • Paul Rhys fel Akela, arweinydd gwersyll ffoaduriaid Cymreig.
  • Catherine Ayers fel Elaine, chwaer Dee a gwraig Hector.
  • Patrick Baladi fel Hector, aelod o'r Seiri Rhyddion.
  • Derek Hutchinson fel Philip, taid Rhys Driscoll.
  • Jonathan Nefydd fel Simon "y prophwyd".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Golbart, Max (16 Chwefror 2023). "James Graham, Michael Sheen & Adam Curtis Combine On Dystopian Drama 'The Way' For The BBC". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
  2. Hughes, Janet (6 Mai 2023). "Hollywood royalty Michael Sheen expected to roll into town on Coronation Day". Walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
  3. Evans, Connie; Dowrick, Molly (17 Chwefror 2023). "Michael Sheen to direct new BBC drama The Way and it's being filmed in his home town". Walesonline.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
  4. "Michael Sheen begins directing The Way in South Wales". Theknowledgeonline.com (yn Saesneg). 25 Ebrill 2023. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
  5. Natalie Wilson (21 Chwefror 2024). "Where is BBC drama The Way set? Wales filming locations for Michael Sheen's new miniseries". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Chwefror 2024.