Neidio i'r cynnwys

Aneurin Barnard

Oddi ar Wicipedia
Aneurin Barnard
Ganwyd8 Mai 1987 Edit this on Wikidata
Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier Edit this on Wikidata

Actor llwyfan, ffilm a theledu o Gymru yw Aneurin Barnard (ganed 8 Mai 1987). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran fel Davey yn Hunky Dory, Claude yn The Truth About Emanuel, Bobby Willis yn ffilm deledu Cilla a Rhisiart III yn The White Queen.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Aneurin Barnard yn Nghwmogwr, Morgannwg Ganol yn fab i June, gweithiwr mewn ffatri a Terry Barnard, glöwr.[1][2] Mae ganddo chwaer o'r enw Ceri.[2] Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llanhari a mae'n siarad Cymraeg. Fe serennodd yng nghyfres HTV Cymru, Jacob's Ladder pan oedd yn 11 a 12 mlwydd oed. Cafodd ei hyfforddi fel actor yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar yr un pryd a Kimberley Nixon a Tom Cullen, gan raddio yn 2008.[3] Mae hefyd yn ganwr sydd wedi recordio nifer o ganeuon Cymraeg.

Aneurin oedd yn chwarae Melchior, un o'r tri prif ran, yng nghast gwreiddiol cynhyrchiad Llundain o Spring Awakening a agorodd yn Chwefror 2009 yn theatr y Lyric, Hammersmith.[4][5] Yn ddiweddarach fe drosglwyddodd y ddrama i Theatr Novello yn Mawrth 2009, gan redeg tan Mai 2009. Enillodd Barnard Wobr Laurence Olivier yn 2010 am yr actor gorau mewn sioe gerdd am ei ran.[6]

Mae wedi ymddangos mewn rhannau gwadd yng nghyfresi teledu Doctors, Casualty, Shameless, Y Pris a Jacob's Ladder.[7] Mae wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau byr ar deledu yn cynnwys The Big Day, Night on the Tiles a Owl Creek Bridge - a enillodd BAFTA Cymru.[8]

Mae ei waith theatr yng Nghymru yn cynnwys chwarae Don Lockwood yn y sioe gerdd Singin' in the Rain ar gyfer Theatr Ieuenctid Penybont-ar-ogwr a Il Miracolo ar gyfer Elan Wales.[9] Tra'n astudio yn yr ysgol ddrama, ymddangosodd mewn cynyrchiadau o The Caucasian Chalk Circle, Hobson’s Choice, The Importance of Being Earnest a West Side Story, lle roedd yn chwarae Tony. Roedd hefyd yn rhan o gynhyrchiad radio o Under Milk Wood.[10]

Ymddangosodd Barnard yn Ironclad, ffilm wedi ei osod yn 1215 oedd yn dangos cefndir arwyddo y Magna Carta gan y Brenin John a'r gwrthryfel gan ei farwniaid. Serennodd hefyd yn ffilm gerddorol annibynnol Hunky Dory ochr yn ochr â Minnie Driver yn 2011. Mae'r ffilm yn cymryd lle yn 1976 yn ystod yr haf poethaf ers i gofnodion ddechrau, ac yn cynnwys caneuon o'r cyfnod fel Life on Mars gan David Bowie a Love Reign O'er Me gan The Who.

Yn Ionawr 2012 serennodd fel y ffotograffydd David Bailey yn y ffilm deledu We'll Take Manhattan wrth ochr Karen Gillan. Ymddangosodd hefyd yn y ffilm arswydd Elfie Hopkins wrth ochr Jaime Winstone. Fe'i ystyriwyd ar gyfer rhan Jack yn y ffilm Jack the Giant Slayer yn 2013 ond fe aeth y rhan i Nicholas Hoult.[11]

Fe ymddangosodd Barnard mewn prif rhan yn Guinea Pigs gan Vertigo Films[12], hefyd gyda'r enw The Facility, ffilm arswyd, atmosfferig ar gyllid isel am wirfoddolwyr yn ymladd am ei bywyd ar ôl i brawf clinigol fynd o'i le. Roedd y ffilm hefyd yn serennu Alex Reid, Chris Larkin, Nia Roberts, Oliver Coleman, Skye Lourie, Jack Doolan a Amit Shah. Yn ddiweddarach yn 2012 fe serennodd yn y ffilm arswyd-gyffro Citadel.

Rhwng Ebrill a Mehefin 2012 fe ffilmiodd y ffilm antur ffantasi The Adventurer: The Curse of the Midas Box[13] yn ardal De-Orllewin Lloegr, gan chwarae'r prif ran o Mariah Mundi. Fe ddaeth y ffilm allan yn 2013. Fe ymddangosodd hefyd yn Trap for Cinderella (2013) a gyfarwyddwyd gan Iain Softley, ffilm wedi ei seilio ar lyfr Sébastien Japrisot a fe bortreadodd y cymeriad Claude yn nrama gyffro The Truth About Emanuel gan Francesca Gregorini.

Fe bortreadodd Barnard Rhisiart III, brenin Lloegr yn y gyfres deledu The White Queen ar BBC One. Fe ymddangosodd fel John Trenchard yn addasiad dau-ran o Moonfleet a ffilmiwyd yn Iwerddon a ddarlledwyd ar Sky1 yn Rhagfyr 2013.

Yn 2014, roedd Barnard yn gweithio ar ei ran fel Charles Knight yn y ffilm wyddonias Grotesque wrth ochr Nicholas Hoult, Alex Reid, Ivan Dorschner a Allen Leech. Mi fydd yn ymddangos yn y ffilm The Devil's Harvest. Fe wnaeth hefyd chwarae rhan Bobby Willis, y rheolwr cerddoriaeth o Lerpwl a gŵr Cilla Black wrth ochr Sheridan Smith yn nghyfres ddrama tri rhan Cilla ar ITV, oedd yn edrych ar fywyd cynnar Cilla Black a sut ddaeth i enwogrwydd.

Yn 2015 serennodd fel Boris Drubetskoy yn addasiad teledu Andrew Davies o War and Peace gan Leo Tolstoy a ddarlledwyd ar BBC One.[14]

Ym mis Mai 2021, ymddangosodd yn y gyfres ddrama The Pact ar BBC One, stori gyffro wedi ei leoli mewn bragdy yng Nghymru.[15]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2007 Owl Creek Bridge Damien Ffilm fer
2011 Elsewhere Nick Ffilm fer
2011 Ironclad Guy the Squire
2011 Powder Miguel
2011 Queen of Hearts Bad Knight Ffilm fer
2011 Hunky Dory Davey
2012 Citadel Tommy
2012 Elfie Hopkins Dylan Parker
2012 The Facility Adam
2013 The Truth About Emanuel Claude
2013 Trap for Cinderella Jake
2013 Mary Queen of Scots Darnley
2014 The Adventurer: The Curse of the Midas Box Mariah Mundi
2014 The Devil's Harvest Mykola
2015 Legend David Bailey

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2003 Jacob's Ladder Young Jonathan
2007 Y Pris Tupac
2008 Casualty Damien 1 pennod: "Hurt"
2009 Doctors Chas Murdoch 1 pennod: "Filmflam Thank You Man"
2012 We'll Take Manhattan David Bailey Ffilm deledu
2013 The White Queen Richard, Duke of Gloucester, later King Richard III Cyfres deledu fer
10 pennod
2013 Agatha Christie's Marple Robbie Hayman 1 pennod: "Endless Night"
2013 Moonfleet John Trenchard Cyfres deledu fer
2014 Under Milk Wood Drowned Ffilm deledu
Rhan lleisiol
2014 Cilla Bobby Willis Cyfres deledu fer
3 pennod
2015 The Scandalous Lady W Captain George Bisset Ffilm deledu
2015 Killing Jesus James, mab Zebedee Cyfres deledu fer
2016 War and Peace Boris Cyfres deledu fer BBC
2016 Thirteen Tim Hobson Cyfres deledu
2017 SS-GB PC Jimmy Dunn Cyfres ddrama fer BBC
2019 Sherwood Gisbourne Rhan lleisiol
Midsomer Murders Freddie Lamb 1 Pennod: "With Baited Breath"
2020 Barkskins Hamish Goames Cyfres deledu
2021 The Pact Jack Evans Cyfres ddrama fer BBC

Gwobrau ac enwebiadau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Gwobr Categori Gwaith Canlyniad
2012 Puchon International Fantastic Film Festival Actor Gorau Citadel Enillodd
2013 Ashland Independent Film Festival Ensemble Actio Gorau: Nodwedd Rhannwyd gyda Jessica Biel, Alfred Molina, Frances O'Connor, Jimmi Simpson, a Kaya Scodelario The Truth About Emanuel Enillodd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.interviewmagazine.com/film/aneurin-barnard-the-truth-about-fishes-sundance/
  2. 2.0 2.1 http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/aneurin-barnard-films-new-bbc-2022736
  3. http://metro.co.uk/2013/07/19/actor-thinks-richard-iii-gets-a-raw-deal-3888865/
  4. Mark Shenton (25 October 2008). "Initial Casting Announced for London Premiere of Tony-Winning Spring Awakening". Playbill. Cyrchwyd 2009-03-19.
  5. Paul Levy (6 Mawrth 2009). "'Spring Awakening' Is No Garden Variety High-School Musical". Wall Street Journal. Cyrchwyd 2009-03-19.
  6.  Gwobrau Olivier yn dod i Gymru. Golwg360 (22 Mawrth 2010).
  7. "Aneurin Barnard secures film deal". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2016-01-09.
  8. Profile of Aneurin Barnard in South Wales Echo, Mawrth 2009
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2003-12-02. Cyrchwyd 2021-02-19.
  10. Interview with Aneurin Barnard and other member cast of SPRING AWAKENING todoMUSICALES.com
  11. Kit, Borys (2010-11-30). "EXCLUSIVE: Bryan Singer Lining up Actors to Test for 'Jack the Giant Killer'". The Hollywood Reporter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-03. Cyrchwyd 2011-03-02.
  12. Vertigo, NFTS start shoot for Guinea Pigs
  13. Adam Dawtrey (11 April 2012). http://www.variety.com/article/VR1118052510. Variety Article. Adalwyd 30 Gorffennaf 2012.
  14. "BBC - Filming begins on epic adaptation of War and Peace for BBC One - Media Centre". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2016-01-06.
  15.  Meet the cast of BBC One drama The Pact. Radio Times (17 Mai 2021).