Tom Cullen

Oddi ar Wicipedia
Tom Cullen
Ganwyd17 Gorffennaf 1985 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
PartnerTatiana Maslany Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Actor o Gymru yw Tom Cullen (ganwyd 17 Gorffennaf 1985). Fe'i ganwyd yn Aberystwyth.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Yn Llandrindod y treuliodd ei blentyndod cyn symud i Gaerdydd pan oedd yn 12 oed. Yno, mynychodd Ysgol Uwchradd Llanisien.[1] Awduron oedd ei rieni.[2] Cyn dechrau ar ei yrfa fel actor, bu'n rheoli tŷ bwyta Mecsicanaidd a bu'n ymwneud â'r byd cerddoriaeth. Mae ganddo ddau o blant.[3] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd yn 2009 gyda gradd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd, mewn actio.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Tra yn y Coleg Cerdd a Drama, ymddangosodd yn y ffilm Daddy's Girl, a enillodd wobr BAFTA Cymru am y 'Ffilm Orau',[4] a serennodd yn Watch Me, a enillodd hefyd wobr BAFTA Cymru am 'Ffilm Fer'.[5] Ymddangosodd wedyn ar lwyfan, yn y ddrama Gorgio yn y Bristol Old Vic, Assembly a A Good Night Out in the Valleys yn Theatr Cenedlaethol Cymru ac yna yn The Sanger yn Theatr Sherman. Yn 2011, fe'i enwyd ar restr Screen International Stars of Tomorrow.[6]

Ffilmograffi[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan a chwaraeodd Nodiadau
2006 Cravings Jason
2008 Watch Me Tom Ffilm fer
Enwebiad BAFTA Cymru
2009 20 Questions Adam Ffilm fer
2010 Balance Nico Ffilm fer
2011 Weekend Russell Gwobr Actor Ifanc British Independent Film Award
2012 Henry Henry Ffilm fer
2013 Room 8 Ives Ffilm fer
Gwobr BAFTA am Ffilm Fer Gorau Prydain
2013 The Last Days on Mars Richard Harrington
2014 Desert Dancer Ardavan
2015 Happily Ever After Colin
2015 No Compass in the Wilderness Nils
2015 A Hundred Streets Jake
2015 Black Mountain Poets Richard
2016 Mine Tommy Madison

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan a chwaraeodd Noiadaud
2010 Banged Up Abroad Yoram Rhaglen: "Tokyo"
2010 Pen Talar Richard 2 raglen
2011 Black Mirror Jonas Rhaglen: "The Entire History of You"
2012 World Without End Wulfric 8 rhaglen
2013–present Downton Abbey Anthony Foyle, Lord Gillingham 12 rhaglen
2015 The Trials of Jimmy Rose Jason Rose

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Emerging Welsh actor Tom Cullen on his big screen success". Wales Online. Cyrchwyd 16 Medi 2014.
  2. Grice, Natalie. "Indie film Weekend break for Cardiff actor Tom Cullen". BBC Wales News. Cyrchwyd 16 Medi 2014.
  3. Aftab, Kaleem. "Tom Cullen". Interview Magazine. Cyrchwyd 16 Medi 2014.
  4. "BAFTA Award for Daddy's Girl". Dragon Di. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-16. Cyrchwyd 2008-04-25.
  5. "BAFTA Nomination: Ieuan Morris 'Watch Me'". Glamorgan. 2008-04-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-16. Cyrchwyd 2015-03-01.
  6. "Screen International Stars of Tomorrow 2011". Screen Daily. 2011-06-30. Cyrchwyd 2011-09-17.