Tatiana Maslany
Tatiana Maslany | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1985 Regina |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, dawnsiwr, llenor |
Priod | Brendan Hines |
Partner | Tom Cullen |
Gwobr/au | Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama |
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Actores o Ganada yw Tatiana Gabriele Maslany (ganwyd 22 Medi 1985).[1] Mae'n adnabyddus am chwarae rannau lluosog yn y gyfres deledu ffuglennol-wyddonol, Orphan Black (2013–17), gafodd ei ddarlledu ar Space yng Nghanada ac BBC America yn yr UD. Am ei pherfformiadau yn Orphan Black, enillodd Maslany y Primetime Emmy Award (2016), y TCA Award (2013), dau Critics' Choice Television Awards (2013 a 2014), a phum Canadian Screen Awards (2014–18), yn ogystal â derbyn enwebiadau am Golden Globe Award a Screen Actors Guild Award. Maslany oedd yr actores gyntaf o Ganada mewn cyfres deledu o Ganada i ennill Gwobr Emmy o fewn categori dramatig allweddol.[2]
Bu hefyd yn serennu mewn cyfresi teledu fel Heartland (2008–10), The Nativity (2010), a Being Erica (2009–11). Yn 2013, enillodd y wobr ACTRA am ei phortraead fel Claire yn y ffilm Picture Day a gwobr Phillip Borsos am ei pherfformiad yn y ffilm Cas and Dylan. Mae ei ffilmiau nodedig eraill yn cynnwys Diary of the Dead (2007), Eastern Promises (2007), The Vow (2012), Woman in Gold (2015), a Stronger (2017).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Maslany yn Regina, Saskatchewan, yn ferch i Dan, saer, a Renate, cyfieithydd. Mae ganddi ddau frawd iau, Daniel (actor) a Michael. Mae ganddi hynafiaeth Awstriaidd, Almaenig, Pwylaidd, Romanaidd, ac Wcrenaidd. Aeth i Ysgol Elfennaidd 'ymdrochi Ffrengig', a cafodd ei dysgu yn Almaeneg gan ei mam cyn iddi ddysgu Saesneg. Ymhellach, roedd ei nain a'i thaid yn siarad Alaeneg iddi tra'n blentyn. Mae hefyd yn siarad Sbaeneg.[3] Mae wedi bod yn dawnsio ers yn bedair oed, a dechreuodd yn y theatr gymunedol a sioeau cerdd yn naw oed.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Orphan Black
[golygu | golygu cod]O 2013 i 2017, serenodd Maslany yng nghyfres wreiddiol y BBC America a Space- Orphan Black. Mae hi'n chwarae'r prif ran, Sarah Manning, yn ogystal â charfan o gloniau Sarah: Cosima Niehaus, Alison Hendrix, Helena, Rachel Duncan, Elizabeth Childs, Krystal Goderitch, Veera "M.K." Suominen, Katja Obinger, Jennifer Fitzsimmons and Tony Sawicki.[angen ffynhonnell] Enillodd Maslany ddwy wobr Critics' Choice Television Awards ac un TCA Award am ei rhan yn y gyfres. Yn ogystal, cafodd ei henwebu ar gyfer Golden Globe Award for Best Actress am y rhannau hyn, ond collodd i Robin Wright am ei ran yn House of Cards.[4] Yn 2015, derbyniodd Maslany enwebiad am Wobr Emmy am ei pherfformiad, ond collodd i Viola Davis am ei rhan yn How to Get Away with Murder. Enwebwyd Maslany eto yn 2016[5] gan ennill y categori.[6] Derbyniodd Maslany enwebiad am Y Brif Actores Orau mewn Cyfres Ddrama yn y 7th Critics' Choice Television Awards, ei thrydedd o enwebiadau gan y 'Broadcast Television Journalists Association'.[7] Yn 2014, bu The Guardian yn canmol Maslany am ei pherfformiad yn y gyfres, gan ei alw'n "Olympic-level acting," gan ysgrifennu:
"Maslany plays half a dozen different clones over season one, with who knows how many more promised for the imminent second season ... Delivering one creditable performance for a show is tough enough, but Maslany nails several here, often appearing in scenes as multiple versions interacting seamlessly. This is Olympic-level, endurance acting."[8]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Maslany wedi bod mewn perthynas â'r actor Cymreig Tom Cullen ers 2011.[9] Fe wnaeth y ddau gyfarfod ym Mudapest tra'n ffilmio y gyfres fer World Without End ar gyfer Channel 4.[10][11] Maent yn byw ar hyn o bryd yn Los Angeles, Califfornia.[12]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2003 | Recital, TheThe Recital | Diana Mills | Ffilm Fer |
2004 | Ginger Snaps 2: Unleashed | Ghost | |
2007 | Messengers, TheThe Messengers | Lindsay Rollins | |
2007 | Eastern Promises | Tatiana | Rhan Llais |
2007 | Diary of the Dead | Mary Dexter | |
2007 | Late Fragment | India | |
2008 | Flash of Genius | Older Kathy | |
2009 | Defendor | Olga | |
2009 | Grown Up Movie Star | Ruby | |
2009 | Hardwired | Punk Red | |
2010 | Up & Down | Girl | Ffilm Fer |
2010 | In Redemption | Margaret | |
2010 | Toilet | Lisa | |
2011 | Seven Sins: Lust | Woman (voice) | Ffilm Fer |
2011 | Darla | Friend | Ffilm Fer |
2011 | Entitled, TheThe Entitled | Jenna | |
2011 | Violet & Daisy | April | |
2012 | Waiting for You | Ffilm Fer | |
2012 | Vow, TheThe Vow | Lily | |
2012 | Picture Day | Claire | |
2012 | Blood Pressure | Kat | |
2014 | Cas and Dylan | Dylan Morgan | |
2015 | Woman in Gold | Young Maria Altmann | |
2016 | The Other Half | Emily | |
2016 | Two Lovers and a Bear | Lucy | |
2016 | Apart From Everything | Fran | Ffilm Fer |
2017 | Stronger | Erin Hurley | |
2017 | Souls of Totality | Lady 18 | Ffilm Fer |
2018 | Destroyer | Ol-gynhyrchiad | |
2018 | Pink Wall | Jenna | Ol-gynhyrchiad |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1997–2002 | Incredible Story Studios | Amrywiol | |
1999 | Subterranean Passage | Narrator | |
2002–03 | 2030 CE | Rome Greyson | 7 rhagen |
2004–06 | Renegadepress.com | Melanie | 4 rhaglen |
2005 | Dawn Anna | Lauren "Lulu" Dawn Townsend (Age 12) | Ffilm Deledu |
2006 | Trapped! | Gwen | Ffilm Deledu |
2006 | Booky Makes Her Mark | Beatrice "Booky" Thomson | Ffilm Deledu |
2006 | Prairie Giant | Tommy's Doctor's Receptionist | 2 rhaglen |
2007 | Stir of Echoes: The Homecoming | Sammi | Ffilm Deledu |
2007 | Sabbatical | Gwyneth Marlowe | Ffilm Deledu |
2007 | The Robber Bride | Augusta | Ffilm Deledu |
2007 | Redemption SK | Margaret | Cyfres-fer deledu |
2008 | Old Fashioned Thanksgiving, AnAn Old Fashioned Thanksgiving | Mathilda Bassett | Ffilm Deledu |
2008 | Instant Star | Zeppelin Dyer | 8 rhaglen |
2008 | Would Be Kings | Reese | 2 rhaglen |
2008 | Flashpoint | Penny | |
2008–10 | Heartland | Kit Bailey | 15 rhaglen |
2009 | Listener, TheThe Listener | Hannah Simmons | |
2009–11 | Being Erica | Sarah Wexler | 4 rhaglen |
2010 | Cra$h & Burn | Lindsay | |
2010 | Bloodletting & Miraculous Cures | Janice | |
2010 | The Nativity | Mary | 4 rhaglen |
2011 | Certain Prey | Clara Rinker | Ffilm Deledu |
2011 | Alphas | Tracy Beaumont | |
2012 | World Without End | Sister Mair | 7 rhaglen |
2013 | Cracked | Haley Coturno / Isabel Ann Fergus | |
2013–14 | Captain Canuck | Redcoat (voice) | 4 rhaglen |
2013–17 | Orphan Black | Sarah Manning / Elizabeth Childs / Alison Hendrix / Cosima Niehaus / Helena / Rachel Duncan / Tony Sawicki / Jennifer Fitzsimmons / Katja Obinger / Pupok (Scorpion, voice) / Krystal Goderitch / Veera Suominen (M.K.) / Various | |
2013 | Parks and Recreation | Nadia Stasky | 2 rhaglen |
2015 | BoJack Horseman | Mia McKibbin (voice) | |
2016 | Robot Chicken | Barbie (voice) | |
2018 | Drunk History | Emmeline Pankhurst |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tatiana Maslany and Tom Cullen stole cars and spelled their own names wrong". The A.V. Club.
- ↑ "Canadian Tatiana Maslany wins Emmy for best lead actress in a drama". Cyrchwyd 28 Medi 2016.
- ↑ "Tatiana Maslany Chat with fan about Orphan Black and Evelyne Brochu". Cyrchwyd June 12, 2014.
- ↑ "Golden Globe eludes Regina's Tatiana Maslany". CBC News. Cyrchwyd March 11, 2014.
- ↑ "Emmy nominations 2016: See the full list". EW. July 14, 2016. Cyrchwyd July 14, 2016.
- ↑ Swift, Andy (September 18, 2016). "Orphan Black's Tatiana Maslany Wins First Emmy Award: 'I Feel So Lucky'". TVLine. Cyrchwyd September 19, 2016.
- ↑ Lincoln, Ross (November 14, 2016). "Critics' Choice TV Nominations Unveiled". deadline.com. Cyrchwyd December 9, 2016.
- ↑ "Tatiana Maslany is dazzlingly impressive to watch".
- ↑ Valentini, Valentina (18 Mawrth 2016). "Tatiana Maslany and Boyfriend Tom Cullen on 'Joyful' Experience Working Together and Those 'Orphan Black' Spoilers". Entertainment Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-25. Cyrchwyd July 27, 2016.
- ↑ "Tatiana Maslany: 5 Fast Facts You Need to Know". Heavy.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-14. Cyrchwyd 19 Mehefin 2014.
- ↑ Murphy, Mary. "'Orphan Black' Star Undergoes Hollywood Treatment". New York Post. Cyrchwyd September 16, 2014.
- ↑ "Tatiana Maslany Says Goodbye to 'Orphan Black'". Marie Claire (yn Saesneg). August 13, 2017. Cyrchwyd 26 Medi 2017.