Phylip Hughes

Oddi ar Wicipedia
Phylip Hughes
Ganwyd14 Mawrth 1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, athro Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Phylip Hughes (ganwyd 14 Mawrth 1937). Mae'n adnabyddus am chwarae sawl cymeriad cofiadwy yn cynnwys Stan Bevan yn Pobol y Cwm a Mr Lloyd yn Rownd a Rownd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Magwyd yn Nhrelawnwyd, Sir y Fflint.[1]

Gwnaeth Phylip ei wasanaeth milwrol am 18 mis yn Gibraltar gan weithio fel clerc. Dechreuodd focsio yno gan ennill gornest pwysau welter. Yn ôl yng Nghymru aeth i weithio fel athro ymarfer corff er roedd ei fryd ar fod yn actor neu ganwr.

Tra'n athro magodd deulu a chafodd pedwar o blant. Yn ystod y cyfnod yma aeth ati i astudio Lefel A cerddoriaeth, cyfle na chafodd yn yr ysgol. Penderfynodd wedyn adael dysgu a mynd i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio swyddi rhan amser fel gwas fferm. Wedi'r brifysgol aeth yn ôl i ddysgu fel pennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Dinbych. Yn 39 oedd cafodd gyfle i fynd i Gaerdydd i ymuno â Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a bu yno am flwyddyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd ei swydd actio cynta, drwy wahoddiad Rhydderch Jones, mewn rhaglen beilot o'r enw Bois y Bledren. Rhai misoedd wedyn cafodd y rhan o'r 'teddy-boy' Bleddyn yn y gomedi sefyllfa Hafod Henri (1986-1989) ac yn dilyn hynny rhan Tom yn y gomedi sefyllfa Teulu'r Mans (1988-1993). Yn y rhaglen ddychanol Plu Chwithig (1986-1987) roedd yn ysgrifennu a pherfformio cymeriad 'Y Dyn Sâl'. [2]

Bu'n chwarae Stan Bevan yn Pobol y Cwm am ddeng mlynedd rhwng 1984 a 1994.[3] Ymddangosodd fel yr athro 'Wali Welsh' yn y gyfres Jabas (1998-1990). Yna yn 1998 ymunodd â chast Rownd a Rownd yn chwarae Mr Lloyd. Mae hefyd wedi perfformio yng nghyfresi drama Con Passionate, Y Gwyll a Parch.[2]

Bu'n gwneud gwaith gwirfoddol gyda ffoaduriaid a threuliodd amser yng ngwersyll 'Jyngl Calais'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 24 July 2018.
  2. 2.0 2.1  Cyfweliad gyda Phylip Hughes. Rownd a Rownd (14 Mawrth 2017). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2018.
  3.  Stan Bevan. Wiki Pobol y Cwm. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]