Sgwrs:Shân Cothi

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dw i ddim yn hoffi cyfeirio ati fel Cothi droion yn y ddalen hon. Arferiad Seisning yw cyfeirio at bobl wrth eu cyfenw yn unig ac mae'n swnio yn Anghymreig iawn i mi. Beth mae eraill yn feddwl? Dyfrig 00:57, 8 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Bore da Dyfrig. Does dim o'i le ar ddefnyddio'r enw bedydd ar Wici: yn wahanol felly i en. Cymer gip ar fama. Mae defnyddio Sian yn yr erthygl yn llawer nes-atoch. Yr enghraifft orau o beidio a gwneud hynny, ydy'r un a drafodwyd yn y caffi, uchod, sef pan yn cyfeirio at Blair, Bush... neu Cameron. Ac arferiad ydy hynny, dim arall. Hwyl. Llywelyn2000 05:02, 8 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]