Neuadd Frenhinol Albert
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Neuadd Albert)
| Math | neuadd gyngerdd, theatr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Albert o Sachsen-Coburg a Gotha |
| Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | De Kensington |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.50105°N 0.17748°W |
| Cod OS | TQ2660279585 |
| Cod post | SW7 2AP |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Eidalaidd |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Manylion | |
Neuadd gerdd yn Ne Kensington, Dinas Westminster, Llundain, Lloegr, ydy Neuadd Frenhinol Albert (Saesneg: Royal Albert Hall) sy'n adnabyddus fel cartref y Proms ers 1941. Gall ddal hyd at 5,272 o bobl.
Fe'i hadeiladwyd yn 1871 a'i henw gwreiddiol oedd "The Central Hall of Arts and Sciences", ond newidiwyd yr enw gan y Frenhines Victoria i "Royal Albert Hall of Arts and Sciences" pan oedd yn gosod y seiliau cyntaf. Mae'r gromen yn y to yn haearn bwrw a gwydr ac yn 41 m (135 tr) o uchder. Adeiladwyd y neuadd ar ffurf elipsaidd, mewn gwirionedd, ac nid cylch ac mae'n mesur 83 m (272 tr) wrth 72 m (236 tr).




