Neidio i'r cynnwys

Alun Elidyr

Oddi ar Wicipedia
Alun Elidyr
Alun Elidyr yn 2008
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, ffermwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ffermwr, Actor a darlledwr o Gymru yw Alun Edwards, adnabyddir ef fel Alun Elidyr (ganwyd yn 1959), a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bryncoedifor a Rhydymain, ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Ar hyn o bryd, mae'n cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.

Gyrfa actio

[golygu | golygu cod]

Wedi gadael ysgol, aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle bu'n astudio drama. Dechreuodd ei yrfa actio gyda Theatr Crwban, a bu'n gweithio i nifer o gwmnïau drama wedi hynny gan gynnwys Theatr Bara Caws, Theatrig, Cwmni Theatr Gwynedd, Brith Gof, Dalier Sylw ac Arad Goch. Ymysg ei gynyrchiadau niferus mae Plas Dafydd ac Bacchai.

Cafodd Alun gyfnod hefyd yn gweithio fel Darlithydd Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Hyd yn oed cyn iddo ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, roedd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C gan iddo actio mewn nifer o gynyrchiadau ar y Sianel gan gynnwys Coleg, Heliwr (1996), Y Parc, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Lleifior, lle bu'n chwarae mab y teulu, Maldwyn Vaughan.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn marwolaeth ei dad, trodd Alun ei gefn ar fyd actio ac ymgymryd ag awenau'r fferm deuluol ger Rhydymain, Dolgellau. Mae'n rhannu'i amser rhwng y fferm deuluol yn Rhydymain â'i gartref yn Nhalybont, Aberystwyth lle mae'n byw gyda'i bartner Catrin a'u merch Elan.[1]

Yn Sioe Llanelwedd 2018 cafodd ei anrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am ei gyfraniad i fyd amaeth.[2]

Yn 2025, derbyniodd Wobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru. Cafodd y wobr ei gyflwyno iddo yn ystod Sioe Llanelwedd.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Whatever the name, Alun knows how to keep busy", walesonline.co.uk, 18 Medi 2007.
  2. Undeb yn anrhydeddu actor a ddaeth adref yn ôl i ffermio , Golwg360, 26 Gorffennaf 2018.
  3. "Nid gwobr i fi, ond i'r ffermwyr rannodd eu straeon - Alun Elidyr". BBC Cymru Fyw. 2025-07-25. Cyrchwyd 2025-07-25.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.