Neidio i'r cynnwys

Theatr Bara Caws

Oddi ar Wicipedia
Theatr Bara Caws
Enghraifft o:cwmni theatr, sefydliad Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1977
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
PencadlysCaernarfon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://theatrbaracaws.com/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cwmni theatr cymunedol yw Theatr Bara Caws a sefydlwyd ym 1977. Daeth i'r byd "fel babi newydd, un fymryn yn bowld a swnllyd", yn ôl un o'r actorion gwreiddiol, Dyfan Roberts.[1] Bwriad y cwmni o'r cychwyn oedd cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i'r trawsdoriad ehangaf posib o’r gymuned. Llwyfannwyd o leia tri cynhyrchiad y flwyddyn.[2] Cyhoeddwyd cyfrol i ddathlu eu penblwydd yn ddeugain oed yn 2017.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Rhyw fath o rebelio yn erbyn Cwmni Theatr Cymru tua canol y 1970au, oedd y sbardun i greu Theatr Bara Caws. Yn ôl un o'r actorion gwreiddiol Dyfan Roberts: "dim ond dau gwmni theatr oedd wedi herio monopoli Theatr Cymru cyn hynny sef Theatr Ddieithr ac, wedi i'r cwmni hwnnw chwythu'i blwc, Theatr Yr Ymylon [...] Fe ddaeth hi'n gynyddol amlwg i griw dethol yno fod angen i bethau newid - a hynny ar fyrder."[1]

Ynghanol y 1970au, crëwyd Theatr Antur o dan adain Cwmni Theatr Cymru, er mwyn i'r actorion ifanc oedd yn anhapus gyda'r arlwy oedd yn cael ei gyflwyno gan y prif gwmni, i arbrofi a chreu gwaith theatr mwy heriol. Creodd y cwmni sawl cynhyrchiad fel Byw yn y Wlad (1975/6), Fflora a Portread (1976) a Cymerwch, Bwytewch (1977). Roedd y sioeau yma wedi'i creu a'u cyfansoddi gan yr actorion a'r cerddorion a ganlyn, dros gyfnodau gwahanol : Cenfyn Evans, Iestyn Garlick, Sharon Morgan, Grey Evans, Valmai Jones, Gwyn Parry, Dyfan Roberts, Dyfed Thomas, Wyn Bowen Harries, Siân Morgan, Elinor Roberts, Cefin Roberts, Myrddin [Mei] Jones, Siôn Eirian, Gruffydd Jones a Iola Gregory.

Ym 1977, roedd yna ddathliadau mawr drwy'r wlad i gofnodi Jiwbilî Arian Elizabeth II. Penderfynodd rhai o'r actorion oedd wedi bod yn rhan o Theatr Antur, i drefnu "dathliad eu hunain". "Heb geiniog o grant, na fawr ddim arall chwaith, bwriodd deg ati i greu sioe i'w pherfformio yn Steddfod Wrecsam 1977 - a hynny ar eu cost eu hunain".

Mae Sharon Morgan yn cofio, mai yn dilyn gwylio rhaglen deledu am gwmni theatr heriol John McGrath yn yr Alban, y daeth y syniad i greu cwmni theatr newydd ac heriol yn Gymraeg.

Mae Meic Povey yn chwyrn iawn ei feirniadaeth yn ei hunangofiant : "Roedd Wilbert Lloyd Roberts, 'ein tad ni oll', fel arall yn broffwyd athrylithgar, ond yn yr achos hwn [Theatr Antur] yn esgeulus ac unbeniaethol; yn gyndyn ar y diawl i ildio'r awenau."[3] Felly mynd ati ar liwt eu hunain oedd yr unig opsiwn i'r cwmni, ac erbyn 1977, roedd cyfansoddiad Theatr Bara Caws ar bapur.

Nododd Dyfan Roberts wrth dalu teyrnged i Mei Jones yn Nhachwedd 2021 mai gan Mei a Valmai oedd "y ddawn naturiol i roi'r geiriau, y ddeialog a chynllun golygfa i lawr. Ffrwyth creadigrwydd y ddau yna oedd yn gyfrifol am lwyddiant y sgriptiau. Valmai gyda'i sosialaeth tanbaid a'i dawn anhygoel i greu deialog a chymeriadau ffraeth a miniog, a Mei a llygad deallus dros y sioe gyfan."[4] Disgrifiodd Dyfan y cwmni fel "pawb yn gwneud pob peth".

Erbyn yr 21ain ganrif, mae'r Cwmni'n elusen gofrestredig sy'n cael ei ariannu gan grantiau, yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau Sirol Gwynedd, Môn a Chonwy. Mae'r cwmni yn cynnig gwaith ac hyfforddiant i, ac ymestyn sgiliau, ymarferwyr theatrig o bob math – hen a newydd – yn actorion, awduron, a thechnegwyr.

Cyfarwyddyddion artistig

[golygu | golygu cod]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

1970au

[golygu | golygu cod]

(i gyd yn gywaith o waith y cwmni, oni nodir yn wahanol)

1980au

[golygu | golygu cod]
  • Job o Waith (1980)
  • O Na Byddai'n Haf o Hyd (1980)
  • Triciau Tedi (1981)
  • Dwylo i Fyny (1981)
  • Nos Sadwrn Bach (1981)
  • Taliesyn (1981)
  • Y Bwbach Blêr (1981)
  • Oes 'ma Bobol? (1981)
  • Diwrnod i'r Brenin (1982)
  • 'Testun trwm''Pawb â'i Fys (1982)
  • Arwres Gudd (1982)
  • O Syr Mynte Hi (1983)
  • Haf '83 (1983)
  • Sboncyn (1983)
  • Chwara' Plant (1983)
  • Y Fodrwy (1984)
  • Rigor Mortis (1985)
  • lechyd Da (1985)
  • Melltith y Mymi (1985)
  • Celwydd (1985)
  • Paradwys Ffŵl (1985)
  • Pawb Isio Byw (1986)
  • Cwlwm Pump (1986)
  • Yr Amgueddfa Ddu (1986)
  • Zwmba! (1986)
  • Codiad Cesar (1987)
  • Tair Cainc a Hanner (1987)
  • Diwedd y Gân (1988)
  • Salem ar Sêl (1989)
  • Rigor Mortis 2 (1989)
  • Os Na Ddaw Bloda' (1989)

1990au

[golygu | golygu cod]

2000au

[golygu | golygu cod]

2010au

[golygu | golygu cod]

2020au

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Titus, Llŷr (2017). Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978 1 84527 541 9.
  2.  Theatr Bara Caws - Y Cwmni. Adalwyd ar 3 Awst 2017.
  3. Povey, Meic (2010). Nesa Peth I Ddim. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845272401.
  4. Roberts, Dyfan (Tachwedd 2021). "Cofio Mei Jones". Barn.
  5. "Penodi Ffion Dafis yn gyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws". newyddion.s4c.cymru. 2025-09-15. Cyrchwyd 2025-09-15.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]