Betsan Llwyd
| Betsan Llwyd | |
|---|---|
| Ganwyd | Medi 1959 Penffordd-Las |
| Man preswyl | Yr Wyddgrug |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr artistig |
| Adnabyddus am | Pen Talar, Pobol y Cwm |
| Priod | Ynyr Williams |
Actores a chyfarwyddwraig o Gymraes yw Betsan Llwyd (ganwyd Medi 1959).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Betsan ym Mhenffordd-las ym Mhowys a'i magwyd yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 2012 cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws. Mae'n un o gyfarwyddwyr Theatr Pena.
Fe enillodd wobrau yr Actores Orau gan BAFTA Cymru ym 1996 am Y Wisg Sidan ac yn 2001.[3]
Cafodd lwyddiant gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio yn Ty Bernarda Alba a Y Pair a gyda Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug yn Salt, Root and Roe, Gas Light a Pygmalion
Ar deledu, mae hi wedi chwarae rhannau yn Yr Alwad, Talcen Caled, Sombreros, Heliwr, Pen Talar, Ac Eto Nid Myfi ac mae wedi ymddangos ar Pobol y Cwm.[3]
Rolau trosleisio
[golygu | golygu cod]- Y Dywysoges Fach (2007)
Theatr Bara Caws
[golygu | golygu cod]Rhwng 2013 a Rhagfyr 2025, Betsan oedd Arweinydd Artistig Theatr Bara Caws. Cychwynodd a gorffenodd ei chyfnod gyda'r cwmni drwy gyfarwyddo cynhychiad o gyfieithiad Gareth Miles o'r ddrama Llanast! .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Betsan Llwyd - Arts Council of Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-24. Cyrchwyd 2015-12-30.
- ↑ Betsan Llwyd yn cyfarwyddo, Cylchgrawn BBC; Adalwyd 2015-12-30
- ↑ 3.0 3.1 Betsan Llwyd awards[dolen farw]