Meinir Jones

Oddi ar Wicipedia
Meinir Jones
Ganwyd26 Rhagfyr 1985 Edit this on Wikidata
Capel Isaac Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Cyflwynydd teledu yw Meinir Jones (ganwyd 26 Rhagfyr 1985) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.

Magwyd Meinir ar fferm yng Nghapel Isaac ger Llandeilo, a Ffermio yw'r rhaglen gyntaf iddi ei chyflwyno, ar ôl pedair blynedd yn gweithio fel cyfarwyddwr ac ymchwilydd ar y gyfres.[1]

Cafodd ei haddysg yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfynydd, ger Llandeilo, ac yna'n Ysgol Gyfun Tre-Gib, Ffairfach. Graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth yn 2007, gan dderbyn swydd fel ymchwilydd ar Ffermio.

Yn ogystal â gweithio ar Ffermio, mae’n gweithio ar fferm ddefaid a gwartheg ei rhieni a'i brawd.

Mae gan Meinir ddiadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig ac yn eu harddangos mewn sioeau. Mae Meinir hefyd yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd.

Yn 2014, derbyniodd Wobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru am ei gwaith yn codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru drwy ei gwaith yn y cyfryngau. Cyflwynwyd y wobr idd, sef ffon fugail wedi ei cherfio yn arbennig gan wneuthurwr ffyn o Aberystwyth, Hywel Evans, gan Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cue Meinir, a farmer’s daughter for Ffermio (en) , WalesOnline, 18 Ionawr 2011.
  2. Cyflwynwraig S4C yn derbyn Gwobr Goffa Bob Davies , Golwg360, 25 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.