Menter Cyllid Preifat

Oddi ar Wicipedia
Menter Cyllid Preifat
Mathcydweithredu Edit this on Wikidata
Adeiladwyd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth drwy cynllun Menter Cyllid Preifat

Mae Menter Cyllid Preifat (Public Finance Initiative, PFI) yn ffordd o greu partneriaethau rhwng rhannau cyhoeddus a phreifat yr economi. Mae'n golygu talu am brosiectau adeiladu cyhoeddus (fel seilwaith) gydag arian gan gwmnïau preifat.

Fe'i crëwyd gan lywodraethau Awstralia a'r Deyrnas Unedig. Fe'i defnyddiwyd yno ac yn Sbaen. Mae PFI a'i amrywiadau bellach wedi'u defnyddio mewn llawer o wledydd fel rhan o'r rhaglen ehangach o breifateiddio ac ariannol. Mae hyn wedi digwydd oherwydd yr angen cynyddol am atebolrwydd ac effeithlonrwydd ar gyfer gwario arian cyhoeddus.[1] Mae PFI hefyd wedi'i ddefnyddio'n syml i osgoi adrodd ar gostau a dyled ar y mantolenni.[2]

Diffiniad a gweithredu[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Carchar y Parc gyda arian MCP

Nid oes diffiniadau swyddogol o’r termau Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat (Public Private Parnership, PPP) a PFI y cytunir arnynt, ac yn aml iawn, cânt eu defnyddio’n ymgyfnewidiol.

Ceir darlun o’r egwyddorion y tu cefn i’r termau hyn.

  • Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat (PPP) - Unrhyw fenter ar y cyd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn gwella effeithlonrwydd gwasanaethau sector cyhoeddus.
  • Menter Cyllid Preifat (PFI) - Ffurf o PPP sy’n cynnwys defnyddio cyllid y sector preifat i ddarparu prosiectau a oedd yn cael eu darparu’n draddodiadol gan y sector cyhoeddus. Mae PFI yn golygu mai’r sector preifat sy’n berchen ar ac yn eu gweithredu, tra bod gan y sector cyhoeddus fwy o swyddogaeth.

Mae PFI yn ffurf o PPP sy’n cyfuno rhaglen caffael gyhoeddus (lle mae’r sector cyhoeddus yn prynu eitemau cyfalaf gan y sector preifat), â ffurf estynedig o gontractio allan (lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu contractio gan y sector preifat). Mae’r partner sector preifat yn casglu’r cyllid i ariannu’r prosiect, fel arfer drwy gymysgedd o gyllid i ariannu dyledion a chyllid ecwiti. Mae PFI yn newid rôl y sector cyhoeddus i raddau, o fod yn berchennog a darparwr i fod yn alluogwr a phrynwr.

Egwyddorion canllawiau PFI yw: bod y sector preifat yn cymryd risg yn erbyn colledion heb warant gan y trethdalwr ac y dylid dangos gwerth am arian am unrhyw wariant gan y sector cyhoeddus.[3]

Trosolwg o PFI[golygu | golygu cod]

Fel arfer, mae PFI yn golygu darparu asedau cyfalaf a gwasanaethau gweithredol sy’n cyd-fynd â’r ased hwnnw.

Yn y modelau mwyaf cyffredin, mae’r sector preifat yn dylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu (DBFO), neu’n dylunio, adeiladu, cynnal ac ariannu (DCMF) cyfleusterau, a hynny’n seiliedig ar fanyleb a bennir gan y sector cyhoeddus. Nid yw’r sector cyhoeddus yn berchen ar yr ased, ond yn diffinio lefel y gwasanaeth y mae’r partner sector preifat i’w ddarparu yn gyfnewid am daliad refeniw, y tâl unedol (gweler y blwch isod). Os yw’r corff sector preifat yn methu â chyrraedd y safonau y cytunwyd arnynt, mae’n colli elfen o’r tâl unedol nes bydd safonau’n gwella. Pan ddaw’r contract i ben, caiff perchnogaeth o’r ased un ai ei throsglwyddo i’r sector cyhoeddus, neu bydd yn parhau gyda’r sector preifat, yn ôl telerau’r contract. Felly, mae unrhyw brosiect PFI yn ddibynnol ar y contract a ddefnyddir, yn ogystal â pharodrwydd y ddau barti i’w orfodi.[4]

Gwrthwynebiad yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Cafwyd gwrthwynebiad deallusol a gwleidyddol iddo ar draws y DU a hefyd Cymru. Dwedodd Plaid Cymru yn 2011 fod PFI yn "dargyfeirio miliynau o bunnoedd o wasanaethau rhengflaen cynghorau lleol Cymru am bod rhaid iddynt dalu costau uchel cytundebau Menter Cyllid Preifat". Dywedwyd bod "mwy na £40m y flwyddyn" yn mynd allan fel taliadau PFI gan gynghorau Cymru yn flynyddol.[5] Yn 2008 dywedodd Dai Lloyd Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru bod "24 o brosiectau PFI yng Nghymru wedi costio £601m i’w hadeiladu, ond byddai ad-dalu’r benthyciadau buddsoddi hynny dros ddegawdau yn golygu bil terfynol o £2.6bn."[6]

Datganodd Alun Davies, Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn 2017, "In Wales, there is no PFI and no privatisation".[7] Gellid dadlau nad yw hyn yn hollol gywir ond o flynyddoedd cynnar datganoli roedd Cymru bob amser yn llawer mwy gofalus tuag at PFI na Lloegr a’r Alban: mewn gwirionedd roedd cytundeb clymblaid ‘Cymru’n Un’ yn gwahardd unrhyw gynlluniau PFI ychwanegol ar gyfer y GIG.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barlow, James; Roehrich, Jens K.; Wright, Steve (2010). "De facto privatisation or a renewed role for the EU? Paying for Europe's healthcare infrastructure in a recession". Journal of the Royal Society of Medicine 103 (2): 51–55. doi:10.1258/jrsm.2009.090296. PMC 2813788. PMID 20118334. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2813788.
  2. "PFI 'still being used to keep costs off balance sheet'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-12. Cyrchwyd 2016-01-31.
  3. "Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat a'r Fenter Cyllid Preifat (PPP a PFI)" (PDF). Hysbysiad Hwylus gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008.
  4. "Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat a'r Fenter Cyllid Preifat (PPP a PFI)" (PDF). Hysbysiad Hwylus gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008.
  5. "Payments for PFI contracts 'diverts cash from services' MILLIONS of pounds are being diverted from frontline services because Welsh councils are having to pay costly Private Finance Initiative contracts, Plaid Cymru warned yesterday". Wales Online. 3 Medi 2011.
  6. "Public-private deals under review". BBC Wales News. 31 Ionawr 2008.
  7. "'In Wales there is no PFI and no privatisation'". BBC Wales News. 28 Medi 2017.
  8. "'In Wales there is no PFI and no privatisation'". BBC Wales News. 28 Medi 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]