Neidio i'r cynnwys

David Lloyd (gwleidydd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Dai Lloyd)
Dr David Lloyd
Aelod o Senedd Cymru
for Ranbarth Gorllewin De Cymru
Mewn swydd
6 Mai 2016  29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganAltaf Hussain
Dilynwyd ganSioned Williams
Mewn swydd
6 Mai 1999  6 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Dilynwyd ganByron Davies
Manylion personol
GanwydDavid Rees Lloyd
(1956-12-02) 2 Rhagfyr 1956 (69 oed)
Tywyn, Gwynedd
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
PriodCatherine Lloyd
Plant3
Alma materPrifysgol Caerdydd
ProffesiwnMeddyg teulu

Cyn-wleidydd a meddyg teulu o Gymru yw'r Dr David Rees Lloyd a adnabyddir hefyd fel Dai Lloyd (ganed 2 Rhagfyr 1956). Roedd yn aelod Plaid Cymru dros Ranbarth Gorllewin De Cymru yn Senedd Cymru rhwng 1999 a 2011 ac eto rhwng 2016 a 2021.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Mynychodd Ysgol Uwchradd Tywyn cyn mynychu Prifysgol Meddygol Cymru, Caerdydd, gan raddio MB BCh yn 1980, MRCGP yn 1989 a Dip. Ther (1995)

Meddygaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd yn feddyg teulu yn Fforestfach ers 1984 hyd ei ymdddeoliad yn Nhachwedd 2019. Dychwelodd i weithio am gyfnod y Ebrill 2020 yn ystod pandemig COVID-19.[1]

Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus, FRCGP, gan Goleg Brenhinol y Ffisegwyr yn 2001.

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Daeth yn aelod dros Ranbarth Gorllewin De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 gan barhau hyd at 2011. Dychwelodd i'r Cynulliad ar restr yr un rhanbarth yn dilyn Etholiad 2016. Yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 sefodd yn anllwyddiannus fel ymgeisydd dros etholaeth Gorllewin Abertawe heb roi ei enw ar y rhestr rhanbarthol.

Roedd Dr Lloyd yn Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Ddiwylliant a Seilwaith yn ogystal â bod yn Gadair Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad a chadair Is-Bwyllgor Iechyd, Gofal a Chwaraeon y Cynulliad. Roedd hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Iaith Gymraeg.[2] Diben y gŵp hwn yw trafod a thynnu sylw at faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg, cydweithio a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw faterion sy'n sicrhau tegwch iddi, a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw faterion a all effeithio arni.

Yn y gorffennol, mae wedi siarad dros chwarelwyr y gwaith glo y bu'n eu trin yn ei waith fel meddyg, gan ymladd am gymorth ariannol i'r rhai hynny sy'n dioddef oherwydd effaith y llwch ayb.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Catherine ac mae ganddynt dri mab. Mae'n bregethwr lleyg yn ei oriau hamdden.[3]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Altaf Hussain
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru
20162021
Olynydd:
Sioned Williams
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gorllewin De Cymru
19992011
Olynydd:
Byron Davies

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Assembly Member to return to NHS to fight coronavirus". Nation.Cymru. 2 Ebrill 2020. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2021.
  2. senedd.cynulliad.cymru;[dolen farw] adalwyd 9 Gorffennaf 2019.
  3. news.bbc.co.uk; adalwyd 9 Gorffennaf 2019.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.