Gŵyl Glastonbury

Oddi ar Wicipedia
Delwedd o'r ŵyl


Gŵyl yn ne-orllewin Lloegr yw Gŵyl Glastonbury, sy'n dathlu cerddoriaeth gyfoes, dawns, arlunio a chomedi. Hon yw'r ŵyl awyr agored fwyaf ar y ddaear. Mae'n gorchuddio 900 acer o dir, a mynychodd 177,000 o bobl yr ŵyl yn 2007. Y prif-drefnwr yw'r ffermwr Michael Eavis, sy'n berchen ar y tir. Mae ei ferch, Emily Eavis, yn ei gynorthwyo. Mae'r ŵyl ei hun yn cymryd lle rhwng y pentrefi bychain, Pilton a Pylle, chwe milltir o dref Glastonbury ei hun.

Logo'r ŵyl- 2009

Sêr Gŵyl Glastonbury yn 2013 oedd Y Rolling Stones.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.