Glastonbury
Glastonbury | |
![]() |
|
![]() | |
Poblogaeth | 8,471 (2011)[1] |
---|---|
Swydd | Gwlad yr Haf |
Rhanbarth | |
Gwlad | Lloegr |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | De-orllewin Lloegr |
Senedd y DU | Wells |
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • |
Tref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Glastonbury. Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd Ynys Wydrin neu Ynys Wydr[2], efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".
Mae Caerdydd 48.9 km i ffwrdd o Glastonbury ac mae Llundain yn 185.8 km. Y ddinas agosaf ydy Wells sy'n 7.2 km i ffwrdd.
Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am Joseff o Arimathea yn dwyn y Greal Santaidd i Ynys Brydain, ac a'r chwedlau am y brenin Arthur. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif :
- HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA
"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".
Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ City Population; adalwyd 10 Chwefror 2018
- ↑ Hanes Cymru gan John Davies; Gwasg Penguin; 1990; tud 205.
Dinasoedd
Caerfaddon • Wells
Trefi
Axbridge • Bridgwater • Bruton • Burnham-on-Sea • Castle Cary • Chard • Cheddar • Clevedon • Crewkerne • Dulverton • Frome • Glastonbury • Highbridge • Ilminster • Keynsham • Langport • Midsomer Norton • Minehead • Nailsea • North Petherton • Portishead • Radstock • Shepton Mallet • Somerton • South Petherton • Taunton • Watchet • Wellington • Weston-super-Mare • Wincanton • Wiveliscombe • Yeovil